Mae project yn y gogledd yn ceisio dod â thrigolion ynghyd i dyfu bwyd a meithrin cyfeillgarwch…

Creu gardd gymunedol, banc coed tân a thŷ crwn i ddysgu sgiliau traddodiadol – dyna dri phrosiect diweddaraf menter gymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog.

Gweithio er lles yr amgylchedd a’r gymuned leol ydy amcan y Dref Werdd, a gafodd ei sefydlu dros bymtheg mlynedd yn ôl.