Mae llyfr newydd o hen luniau o Oes Fictoria sydd wedi eu diweddaru yn drawiadol…

Mae gwasg y Lolfa wedi atgynhyrchu casgliad o luniau du a gwyn i fod yn rhai lliw llawn, a hynny am y tro cyntaf mewn llyfr yng Nghymru.

Gwyn Jenkins sydd wedi dethol y lluniau o blith casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer y gyfrol Cymru Ddoe Mewn Lliw a Llun.