Portread o Phil Wyman

Yn ystod ymweliad emosiynol â chastell Caernarfon, fe wnaeth Americanwr addo y byddai’n cerdded o amgylch Cymru am flwyddyn gron gyfan heb siarad dim byd ond Cymraeg.

Y diwrnod hwnnw, dros bymtheg mlynedd yn ôl, fe wnaeth Phil Wyman o Salem, Massachussetts, syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â Thre’r Cofis.

Mae bellach yn dysgu siarad Cymraeg ers ymgartrefu yng Nghaernarfon, a bydd yn dechrau ar y daith gerdded yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd flwyddyn nesaf.

Yn aelod o’r weinidogaeth ers 1985, mae Phil yn gweithio i Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn mynychu achlysuron fel yr Eisteddfod a Glastonbury gyda’i waith.

Daeth i Gymru am y tro cyntaf yn 2003, a bu’n ymweld bob haf cyn symud yma’n barhaol yn ddiweddar.

“Doeddwn i ddim yn teimlo fel typical American, felly roeddwn i’n trio dysgu Cymraeg tipyn bach yma ac acw tua deuddeg mlynedd yn ôl,” eglura Phil.

“Fe wnes i ddod yma gyntaf i gerdded Afon Gwy, fe wnes i gerdded o Raeadr i Gas-gwent dros ddwy wythnos. Roedd o’n fuan ar ôl y [clwy] Foot and Mouth, roedd pobol yn hapus iawn i’n gweld ni achos, fel Covid, roedd pethau wedi cau drwy’r flwyddyn. Ni oedd y cerddwyr cyntaf ger yr afon.”

Ychydig flynyddoedd wedyn, daeth Phil draw gyda thîm bychan o’r eglwys yn Salem i helpu yn y Gorlan ym Maes B y Steddfod Genedlaethol.

“Roeddwn i’n fflipio byrgers achos doeddwn i ddim yn siarad Cymraeg!”

Ar ymweliad â chastell Caernarfon, mae’n cofio gweld y geiriau ‘Llywelyn ap Gruffydd, the last native born Prince of Wales, died 1282’, a dim mwy o wybodaeth na hynny, yn yr arddangosfa.

Roedd yn ymwybodol o hanes Cilmeri, ac wedi clywed chwedl am frenin Lloegr yn dweud na fyddai tywysog nesaf Cymru, sef ei fab, yn siarad Saesneg – gan mai babi oedd ar y pryd.

“Heddiw, dydy Tywysog Cymru ddim yn siarad Cymraeg. Roedd o’n embarrassing iawn i glywed Charles yn trio darllen Cymraeg yn y Senedd, roedd o’n waeth na phan oedd o yma yng Nghaernarfon i’r arwisgiad. Dydy o ddim wedi gweithio i ddysgu Cymraeg dros 50 mlynedd,” meddai’r Americanwr.

“Felly, roeddwn i’n sefyll yn y castell yn crio ac fe wnes i ddweud wrth fy hun: ‘Rhyw ddydd dw i am ddod yn ôl a dw i ddim am siarad dim byd ond Cymraeg a cherdded o amgylch y wlad am flwyddyn’. Dydy Tywysog Cymru methu gwneud hynny, dw i ddim yn gwybod faint o ystyr sydd i’r holl beth, ond mae angen i rywun wneud! Dw i tipyn bach fel ci efo asgwrn, os dw i eisiau gwneud rhywbeth, dw i’n mynd i’w wneud.”

Ynghyd â theithio i wahanol ŵyliau artistig gydag Undeb Bedyddwyr Cymru, mae’n gweithio efo isddiwylliannau, yn trefnu digwyddiadau ac yn hyfforddi gweinidogion.

Symudodd Phil o dde California i Salem yn 1999 er mwyn dechrau’r eglwys yno, gan ddychwelyd yn ddiweddar er mwyn gweithio yng ngŵyl Calan Gaeaf fawr y ddinas.

“Yn Salem dydy [Calan Gaeaf] ddim yn un dydd, mae o’n un mis! Mae miliwn o bobol yn dod i Salem i ddathlu Calon Gaeaf, felly mae’r eglwys yn Salem yn adeiladu llwyfan a threfnu gigs bob penwythnos yn ystod y mis.”

Does ganddo fawr ddim hiraeth am America, meddai, a phan fuodd draw yn gweithio ac yn gweld ei rieni dros yr hydref, roedd ganddo hiraeth am Gymru.

“Mae fy nghalon yn byw yma. Dw i’n teimlo fel dw i wedi dod adref achos ar ôl ugain mlynedd yn dod i Gymru roedd fy ffrindiau i yma’n dweud: ‘Pam wyt ti’n cymryd mor hir i symud?’”

Cerddoriaeth ydy pethau Phil fel arall, a dydy hi ddim syndod ei fod wedi bod yn gweithio fel rheolwr llwyfan yn gigs Cymdeithas yr Iaith pan aeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Fôn yn 2017, ynghyd â gwirfoddoli yn y Gorlan droeon.

“Dw i’n gweithio i wneud albwm rŵan, trio sgrifennu caneuon syml yn Gymraeg i ddysgwyr eraill a phlant,” meddai Phil sy’n chwarae gitâr, y mandolin, y ffliwt a’r sacsoffon, yn ogystal â chanu.

Bu’n astudio Cerddoriaeth yn y coleg, gan ganolbwyntio ar jazz bryd hynny, ond erbyn hyn mae’n chwarae roc gwerin, ac yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth metel a phync hefyd.

Dim ond Cymraeg fydd o’n siarad ar y daith 365 niwrnod o Eisteddfod Boduan 2023 i Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, meddai, a’r gobaith yw y bydd eraill yn ymuno â Phil ar rannau o’r daith.

“Yn yr Eisteddfod eleni, es i yno i drochi fy hun [yn y Gymraeg] a thrio siarad dim ond Cymraeg. Ar ôl wythnos, roedd fy meddwl yn teimlo fel sbageti.

“Dw i ddim yn dysgu ieithoedd yn hawdd, mae’n waith,” ychwanega Phil, a dreuliodd gyfnod yn dysgu Coine, sef Groeg y Beibl, i fyfyrwyr mewn Coleg Beiblaidd yn Carlsbad.

“Os ydy’r geiriau ar bapur dw i’n gwneud yn iawn, dw i’n gallu sgrifennu Cymraeg, mae’r meddwl yn gweithio yn araf pan ti’n sgrifennu. Pan ti’n siarad neu pan mae pobol yn siarad efo chi, mae pethau’n mynd yn gyflym iawn!”

Mae’r paratoadau ar gyfer y daith ‘Dim Saesneg’ wedi dechrau, ac mae Phil yn gobeithio creu map i bobol gael ymuno â’r cerdded.

“Dw i’n gobeithio cerdded efo pobol eraill bob dydd achos dw i eisiau ffeindio pobol sy’n dysgu Cymraeg, ac eisiau tyfu yn ein Cymraeg. Dw i’n meddwl bod pobol yn mynd i fy nilyn, fel YesCymru i siarad am annibyniaeth – os ti eisiau siarad am annibyniaeth gofynnwch i Americanwr, rydyn ni’n hapus iawn i siarad am annibyniaeth!”