Mae yn draddodiad blynyddol erbyn hyn i Golwg gomisiynu darnau creadigol gan brif enillwyr cystadlaethau llenyddol y Brifwyl, i’w cyhoeddi yn rhifyn ola’r flwyddyn o’r cylchgrawn.
Dyma ysgrif gan Sioned Erin Hughes, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni…
Canu’n iach
Mae’n anorfod, wrth i fis Rhagfyr fynd rhagddo, bod rhywun yn myfyrio yn ôl dros y flwyddyn a fu. Dw i’n berson reit fyfyrgar wrth natur, ond mae eleni wedi bod yn flwyddyn o ‘wneud’, ac nid jest ‘bod’. Gormod o wneud a dim digon o fod, ond mi ddof o hyd i’r canol llonydd eto, dw i’n ffyddiog o hynny. Mae hyn yn golygu mai rŵan dw i wirioneddol yn cael y cyfle i arafu fy nghamau, anadlu ryw fymryn yn ddyfnach ac edrych yn ôl dros y flwyddyn a drawsnewidiodd bob dim imi.
Ac er mod i’n gwingo wrth imi siarad amdana i fy hun eto, dw i wir isio rhannu hyn efo chi – dw i wedi pasio fy mhrawf gyrru heddiw. Fel un sydd wedi gorfod bod yn ddibynnol ar eraill cyhyd, mae hwn yn arwydd sicr o annibyniaeth newydd, a dw i’n ei groesawu efo breichiau sy’n agored led y pen. Ar ôl imi fethu deirgwaith, cael bron gant o wersi, dw i’n siŵr – dw i heddiw wedi pasio. Mae hyn yn beth anferthol i mi, fel rhywun sydd – yn aml iawn – efo ofn afresymol o frifo pobol, ac felly’n ofni mynd tu ôl i’r llyw, ynghyd â sawl peth arall sydd wedi bod yn feini tramgwydd imi efo’r dreifio ’ma dros y blynyddoedd.
Pam mod i’n dweud hyn? Gan bod pobol yn gwybod am fy llwyddiant efo’r Fedal Ryddiaith eleni. Ond, mi fydda i wastad yn gwneud ymdrech ymwybodol i ddangos i bobol nad ydi fy mywyd i’n llwyddiannau drwyddo. Dw i’n cael llawer o bethau yn eithriadol o anodd, ac yn gallu gwneud y llanast mwyaf o bethau, ond dw i hefyd yn dweud wrtha i fy hun pan ddaw yna ‘fethiant’ i’m rhan:
‘Adfyd a ddaw a dysg yn ei law.’
Mae’n ffordd hyfryd o fframio yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ‘fethiant’. Os oes yna wers i’w dysgu o’r adfyd, yna a ydi o’n haeddu cael ei alw’n fethiant o gwbl? Mae’n ffordd o fireinio’ch cymeriad, a dyna un o’r pethau mwyaf gwerthfawr sy’n bod. Dw i ddim yn un am toxic positivity – ddim o gwbl – ac nid dyma’r bwriad yma. Mae methiannau’n gallu teimlo’n hollol shit, ac ar y dechrau, felly maen nhw i fod i deimlo. Ond ar ôl myllio a rhegi’r duwiau a cholli dagrau, dw i’n atgoffa fy hun o fy ngallu i ail-fframio.
Y newid pwysicaf sydd wedi digwydd tu mewn i mi eleni ydi mod i ddim yn cymryd fy hun, na chymryd bywyd cymaint o ddifri bellach, nid i’r fath raddau â’r holl flynyddoedd poenus a phetrusgar sydd wedi bod, beth bynnag. Dw i’n gwybod mai adnabod a phrofi y pethau gwaethaf sydd wedi dod â fi i’r lle yma o fodlonrwydd, ond mae’n lle bendithiol i gyrraedd ato. Am ba hyd fydd o’n aros? Wn i ddim, ond rhan o’r holl beth ydi peidio â gor-feddwl am hynny, chwaith. Mi wna i ei fwynhau o tra parith o. A dydi hynny ddim yn dweud bod bob dim yn fêl i gyd, wrth gwrs. Mae gen i fy heriau ac mi fydd gen i fy heriau am byth. Ond eto, ail-fframio. Ac os nad ydi hynny’n gweithio? Therapi.
Beth bynnag, mae hi’n gyfnod yr hosan a’r goeden a’r trimings i gyd. Dw i’n bod yn eithriadol o addfwyn efo fi fy hun dros y cyfnod hwn. Er bod yna ran enfawr ohona i’n caru’r plentyn tu mewn imi sy’n dod i fod unwaith eto dros yr ŵyl, mae cyfnod y Nadolig yn gallu codi llawer o triggers i mi yn bersonol. A i ddim i fanylder, ond os oes yna rywun arall yn gallu uniaethu â hyn eleni – dw i’n gafael yn dynn, dynn ynoch chi.
Dw i’n methu â choelio fy lwc eleni. Mi wna i ganu’n iach i 2022 pan ddaw hi’n ddiwedd Rhagfyr, a diolch iddi am newid bob dim. Fyddai’r Erin oedd yma flwyddyn yn ôl yn curo’i dwylo ac yn ddagrau i gyd, dw i’n gwybod hynny. Roedd hi mewn lle cymharol sefydlog bryd hynny, ond doedd hi’n dal ddim gant y cant o blaid gweld blwyddyn arall. Ond waw, y flwyddyn gafodd hi. Faswn i ddim yn ei ffeirio hi am holl aur y byd.
Diolch o waelod dyfnaf un y galon am 2022. Dw i’n gobeithio am ragor o ddedwyddwch, bodlonrwydd ac iechyd yn 2023.