Felly dyma ni, Nadolig 2022, a blwyddyn arall wedi mynd i rywle.

Pawb flwyddyn yn hŷn, ac ar fin camu fewn i 2023.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll… ac yn arbennig felly’r bobol dda hynny sy’n tanysgrifio i dderbyn y cylchgrawn yn wythnosol drwy’r post; y rheiny sy’n talu am gael darllen y cynnwys ar y We ar Golwg+; a’r rheiny sy’n prynu’r cylchgrawn mewn siopau ar hyd a lled y wlad.

Gobeithio i ni fedru eich talu yn ôl am eich cefnogaeth, trwy ddarparu cylchgrawn sy’n adlewyrchu’r holl bethau difyr sy’n digwydd yn y wlad fach ryfedd hon a elwir yn Gymru.

Hwyrach bod canlyniadau’r Cyfrifiad wedi siomi, ond yr hyn sy’n wirioneddol ryfeddol yw bod hanner miliwn o siaradwyr yr iaith Gymraeg yn medru cynnal a chyflawni cymaint o bethau.

Enghraifft fwya’ llachar 2022 yw llwyddiant ‘Yma o Hyd’ a’r tîm pêl-droed draw yn Qatar, yn llwyddo i uno’r genedl.

Nid mater bach yw dod â’r gogledd a’r de, y gorllewin a’r dwyrain, y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg ynghyd dan faner y Ddraig Goch.

Rhoddwyd hyder amhrisiadwy i’r genedl, ac fe gafodd yr iaith ei hadfywio wrth i fwy a mwy fynd ati i ddysgu ei siarad oherwydd Cwpan y Byd.

A sôn am ysbrydoli, ar dudalen 32 fe gewch hanes band roc Cymraeg sydd gyda’r prysuraf yn y wlad. Hyfryd yw clywed cefnogwyr ifanc y Wal Goch yn cyd-ganu caneuon Bwncath, criw o gerddorion sy’n fwy na theilwng o etifeddu’r baton gan Dafydd Iwan.

Ysbrydoliaeth arall yw un o’n colofnwyr newydd eleni, Izzy Morgana Rabbey, y cyfarwyddwr theatr o Fachynlleth sy’n ddeinamo creadigol, ac sy’n rhoi gwedd newydd i’r Gymraeg yma a thramor. Fe gewch flas ar ei hanturiaethau ar dudalen saith.

Gêm beryg yw enwi a chlodfori un colofnydd, wrth gwrs, felly gwell diolch i bob un o golofnwyr gwych Golwg!

Diolch hefyd i’r holl ohebwyr sy’n cyfrannu ac sy’n sicrhau bod eitemau amrywiol at ddant pawb bob wythnos.

Ac os ydach chi dal yn chwilio am anrheg Dolig munud olaf… beth am danysgrifiad i Golwg?

Chwerthin llond bol

Streicio, rhyfela, pobol methu fforddio bwyta – mae’r newyddion yn depresing dros ben.

A thra na ddyla ni anghofio am y pethau hyn, mae angen rhywfaint o adloniant ar derfyn blwyddyn.

A chewch chi ddim byd gwell i godi’r galon na gwylio’r gyfres Chris a’r Afal Mawr, gyda’r cogydd addfwyn Chris Roberts draw ar antur yn Efrog Newydd.

Yn yr ail bennod, mae Matthew Rhys yn ymuno gyda Chris i “goginio”… a chwarae teg, mae’r actor byd enwog o Gymru yn rhoi perfformans sydd yn ddigon o sioe.

Os ydach chi eisiau laff, hwn ydy’r boi.

Nadolig Llawen… a wela ni chi yn 2023!