Maen nhw wrthi eto eleni, fel y maen nhw bob blwyddyn, yn clochdar eu dwli am y Nadolig.
Ar GB News, yn y Sun a’r Daily Mail, ac ym mhobman arall mae arch-achwynwyr yr adain dde’n ymgynnull i gecru ac i swnian am bawb a phopeth.
A’r un hen ffwlbri sy’n eu poeni.
Y “ffaith” nad ydyn ni’n cael dymuno “Nadolig Llawen” i’n gilydd mwyach.
Y “ffaith” nad yw ysgolion yn cael llwyfannu dramâu am eni’r Baban Iesu mwyach.
Y “ffaith” bod estroniaid yn difetha ein ffyrdd o fyw traddodiadol.
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw nad oes waharddiad o fath ar y byd ar ddefnyddio’r term “Nadolig Llawen”. Does dim byd yn ein rhwystro rhag llamu’n llawen o le i le yn cyfarth “Nadolig Llawen” at bwy bynnag y dymunwn.
Y gwir amdani yw mai lle ein heglwysi a’n capeli – nid ein hysgolion – yw adrodd stori’r enedigaeth wyrthiol ym Methlehem, Jwdea.
Y gwir amdani yw bod ffyrdd o fyw’n newid drwy’r amser – dan ddylanwad estroniaid ai peidio.
Felly, i bawb sy’n cwyno nad ydyn ni’n cael dweud “Nadolig Llawen” mwyach – wel, Nadolig Llawen i chi!
I bawb sy’n cwyno eu bod yn cael eu hamddifadu rhag gweld plant bach yn perfformio chwedl y stabl – ewch i’r Capel neu’r Eglwys, yn hytrach na chwyno dros eich cwrw am ddirywiad ein cyrff crefyddol.
I bawb sy’n cwyno mai pobl o’r tu fas sydd wedi glastwreiddio traddodiadau cynhenid, Cristnogol y Nadolig – ystyriwch faint o sail Cristnogol fuodd erioed i lawer o’r hyn rydyn ni’n ei wneud i ddathlu’r Nadolig beth bynnag.
Ac i bawb y mae’n well gyda nhw ddefnyddio hen gyfarchiadau Cymraeg traddodiadol eraill…
Cyfarchion y Tymor i chi.
A boed i chi fwynhau tangnefedd a heddwch cyfnod yr ŵyl.
Am ba reswm bynnag sy’n bwysig i chi.