Dyna’r ffeinal orau i mi ei gweld ers i’r Felinheli guro Porthaethwy yn rownd derfynol Cwpan Iau Cymdeithas Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru.

Fe sgoriodd Kylian Mbappe hat-tric ac fe gafodd Lionel Messi ddiweddglo disglair i’w yrfa wrth gipio’r brif wobr.

Dyma ddiweddglo perffaith i FIFA a Qatar a oedd wedi derbyn gymaint o feirniadaeth haeddiannol dros y blynyddoedd diweddar.

Ac ar y diwedd roedd Arlywydd FIFA, Gianni Infantino, yn amlwg iawn, yn dal gafael ar y tlws enwog cyn i Messi ei dynnu oddi arno er mwyn gallu ei godi. Ac roedd Messi ei hun wedi gorfod gwisgo clogyn o Qatar dros ei grys pêl-droed. Roedd hynny yn symbolaidd iawn. Roedd y twrnamaint yma wedi cael ei gynnal i hyrwyddo FIFA a Qatar wedi’r cwbl.

Ond er hynny, daeth y pêl-droed i’r amlwg a denu sylw’r byd. O fuddugoliaeth Saudi Arabia dros yr Ariannin i berfformiadau annisgwyl Moroco, roedd hi’n Gwpan y Byd i’w thrysori. Mae’n siomedig bod Cymru heb adael ei marc ar y cae, ond yn y dyfodol fyddwn ni yn edrych yn ôl ac yn teimlo’n falch ein bod ni wedi cymryd rhan yn y Cwpan y Byd orau erioed. Am y tro cyntaf roedd gwledydd Arabaidd, Asiaidd, ac Americanaidd i gyd yn cystadlu ar yr un lefel ag Ewrop. Mae’r drefn yn y byd pêl-droed wedi newid ar ôl y twrnamaint yma.

Roedd hi’n llwyddiant mawr i Qatar, wnaeth brofi ei bod hi’n bosib cynnal y twrnamaint yn y Gaeaf, i gyd mewn un ddinas. Mae llwyddiant Qatar yn llwyddiant i Asia i gyd, ac ni fydd hi’n rhyfedd i weld Saudi Arabia yn cynnal Cwpan y Byd cyn bo hir.

Dros y mis diwethaf, rydym ni wedi gweld grym chwaraeon a pham bod gwledydd mor awyddus i dalu ffortiwn i gael cysylltiad gyda phêl-droed. Ac mae o wedi gweithio, do?

Bydd unrhyw un sy’n caru’r gêm yn edrych ar goliau Mbappe a Messi am flynyddoedd i ddod. Ac yng nghornel y sgrin, bydd Gianni Infantino ac Emir Qatar i’w gweld yn gwenu fel giatiau.