O’r wefan drafod ryngwladol, theconversation.com, y daw’r dadansoddiad cliria’ eto o effaith y pandemig Covid ar yr iaith Gymraeg, yn dilyn ffigurau’r Cyfrifiad a’r cwymp yn nifer y siaradwyr ifanc…

“Efallai fod siaradwyr Cymraeg newydd a oedd wedi dysgu’r iaith yn y system addysg a heb siaradwyr Cymraeg yn eu cartrefi dan anfantais neilltuol. Efallai fod y pandemig wedi arwain at golli sgiliau i rai siaradwyr Cymraeg ifanc tros gyfnod estynedig… Efallai fod y diffyg ymwneud â’r iaith Gymraeg hefyd wedi effeithio’n negyddol ar farn plant amdanyn nhw’u hunain o ran siarad Cymraeg. Mae’n debygol fod eu hyder a’u rhuglder ieithyddol wedi ei effeithio gan gyfnod arwyddocaol o bellter oddi wrth athrawon Cymraeg eu hiaith a chymheiriaid.” (Rhian Hodges a Cynog Prys)

Dyna un argyfwng. Argyfwng diffyg sylw oedd problem cynhadledd Ewropeaidd fawr a gynhaliwyd yng Nghymru i drafod hawliau menywod. Ac fe aeth Sarah Tamburn yn ôl at y sylfeini ar nation.cymru wrth ddisgrifio’r galwadau…

“Dyw e ddim yn anodd. Hunanddewis corfforol, cydraddoldeb o fewn y gyfraith, diogelwch yn ein cartrefi, yn ein mannau gwaith ac mewn mannau cyhoeddus a phlaned y mae modd byw arni. R’yn ni eisiau hyn i bob menyw, nid yn unig yng Nghymru ond ym mhobman yn y byd. Mae dynion eisiau’r pethau hyn hefyd, wrth gwrs. Y gwahaniaeth yw eu bod nhw ar y cyfan eisoes yn eu cael (heblaw am y darn am y blaned).”

Argyfwng y funud, wrth gwrs, yw’r streiciau. A dydi John Dixon ddim yn siŵr am dactegau Rishi Sunak, Prif Weinidog Llywodraeth Prydain…

“Mae’r ffordd y llwyddodd Thatcher i ‘guro’ yr undebau wedi dod yn rhan o chwedloniaeth y Blaid Geidwadol, ynghyd â’r gred bod jyst ymosod ar ‘yr undebau’ rhywsut yn arwain at don fawr o gefnogaeth; ond mae methiant i wahaniaethu rhwng taclo’r glowyr, ar un llaw, a chyhoeddi rhyfel ar y nyrsys, ar y llall, yn ymddangos yn gamgymeriad mawr… Mae yna hen ddywediad y dylen ni ddewis ein gelynion yn ofalus, gan y bydd y dewis yna yn y diwedd yn ein diffinio. Mae’n wireb nad yw Sunak fel petai’n ei deall. Dyw gosod ei blaid a’i lywodraeth i wrthwynebu talu cyflogau deche i nyrsys – a thrwy estyniad, yn gwrthwynebu Gwasanaeth Iechyd gofalgar ac effeithiol – ddim yn ymddangos yn ddewis doeth i rywun sydd ag un job, sef dadwenwyno ei blaid ddigon i wneud yn siŵr nad yw’n cael ei sgubo o’r neilltu yn yr etholiad nesa’.” (borthlas.blogspot.com)

O’r Alban y daw’r blog mwya’ meddylgar ac Oldřich Šubrt yn trafod defnydd llywodraethau diegwyddor o’r syniad o argyfwng…

“R’yn ni’n byw mewn oes pan mae syniadau mawr wedi colli hygrededd a gwleidyddion yn dibynnu’n llwyr ar ofn argyfyngau lledrithiol i gynhyrfu pleidleiswyr. Mae llywodraeth ar sail argyfwng yn trawsnewid cymdeithasau. Maen nhw’n datblygu i fod yn aneffeithiol a thotalitaraidd. Pan fydd pleidiau gwleidyddol yn manteisio ar argyfyngau gwneud, gan fanteisio ar ansicrwydd naturiol, bydd polareiddio gwleidyddol yn cynyddu, y status quo yn cael ei gynnal a’r methiant i ddatrys gwir wrthdaro sosio-economaidd yn dod yn realiti.” (bellacaledonia.org)