Mae hi’n amser maith, ond dwi’n dal i edrych ar d’ôl di, sdi.

Dwyt ti ddim yn fy ngweld i, wrth gwrs, nac yn fy nghlywed i. Ac mae hynny’n ddigon i dorri dy galon di a’m calon innau, yn enwedig ar adegau fel hyn – Nadolig, penblwyddi, priodasau, genedigaethau. Rwyt ti’n galaru amdana i ar yr adegau mwyaf hapus, a minnau, yn ddiarwybod i ti, yn galaru-tu-chwith amdanat tithau. Rydym ni ar ddau ochr yr un llen, ac am bob tro y byddi di’n gorfod llyncu dy ddagrau ‘nol wrth feddwl amdana i, am bob gwên drist sydd ddim wir yn wên o gwbl, am bob cip ar fy ffotograff a’r pigyn yn dy galon sy’n dilyn, rydw i’n brifo am nad wyt ti’n gwybod mor agos ydw i go-iawn.

Roeddwn i efo ti yn sioe Nadolig y plant, pan welaist ti rywbeth ohona i yn yr un bach wrth iddi ganu ‘Dawel Nos’ mewn gwisg dafad, ryw sglein yn ei llygaid, rywbeth cyfarwydd wrth iddi wenu ar ei hathrawes. Roeddwn i yna pan wnest ti biciad i Tesco ar noswyl Nadolig, pan sefaist ti ynghanol torf o siopwyr yn teimlo’n uffernol o unig am nad wyt ti’n gwybod beth yn union oedd cynhwysion fy mresych coch ar ddiwrnod Nadolig. Rydw i yna pan mae’n hwyr yn y nos, a’r goreuon wedi eu bwyta o’r bocs Quality Street, a thithau’n methu deall pam fod y goleuadau lliwiau fferins ar y goeden yn ddigon i wneud i ti grïo weithiau. Rydw i yna pan fyddi di’n teimlo’n euog am dy fod ti wedi chwerthin, wedi mwynhau dy hun, fel petai’r pethau hynny’n amharchu’r ffaith ’mod i wedi bodoli ac wedi darfod.

Mi rown i’r byd i gael bod yna efo ti. Yn iawn, yn gig a gwaed, yn normal. Ar yr un ochr i’r llen â ti. Mi rown i’r byd i gael bod yn mynd ar dy nerfau di dipyn bach unwaith eto, efo fy ffysian â ‘musnesu mewn sosbenni ar y stôf. Mi rown i’r byd am beidio bod yn angel, am y fraint o ddiffyg sancteiddrwydd o fod yn berson go-iawn.

Mae hi’n amser maith, a dwn i ddim ai’r nefoedd ydi’r lle yma tu hwnt i’r llen, neu ydw i’n bodoli dim ond fel atgof. Ond waeth pa un, dwi yma. Yn dal i edrych ar d’ôl di. Yn agos, agos. Ddim yn angel, ond yn Fi.