Fel anrheg i gloi blwyddyn hollol ddi-stop, ges i fersiwn eitha creulon o Covid ar ôl dychwelyd o wyliau ym Mharis. Roedd o fel petai cyfalafiaeth yn fy nghosbi am fynd ar wylie fel person hunan-gyflogedig. Ar ôl wythnos o wylio cyfres ar ôl cyfres o Bling Empire a Drag Race Canada a byw ar bagels a chawl tun o Sainsbury’s, rwy’n gallu eistedd lan am hirach na hanner awr heb deimlo’r angen i orffwys. Ac ar gyfer fy ngholofn olaf o’r flwyddyn, roeddwn i eisiau mynd trwy fy uchafbwyntiau o ran fy anturiaethau creadigol… a hynny ar ôl bron pythefnos o beidio â bod yn greadigol o gwbwl!

 

  • ‘Cymru Ni’ yn cael ei dewis i fod yn gân Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2022. Hollol boncyrs. Doeddwn i erioed yn meddwl y bydde cân gen i yn cael ei defnyddio ar gyfer y rygbi. Byth. Swreal uffernol. Mor ddiolchgar am y cariad mae’r gân yma wedi’i dderbyn gan bobl. Ac yn dal i’w dderbyn.

 

  • Gweld Grace Jones, Erykah Badu, Oumou Sangare a Hiatus Kaityote – pedwar o fy hoff fandie/cantoresau! Mor ysbrydoledig ac arbennig i’w gweld nhw i gyd ar ôl y pandemig. Yn enwedig Grace Jones ac Erykah – doeddwn i byth yn meddwl y byswn i yn cael gweld y ddwy yma yn fyw!

 

  • Protestio yn Eisteddfod yr Urdd 2022 yn erbyn presenoldeb yr heddlu ar y Maes a’r ffaith fod Eurig Sailsbury wedi ysgrifennu cerdd yn canu clodydd yr heddlu. Os fydd yr un peth yn digwydd y flwyddyn nesaf, mi fydda i nôl yn siarad allan am hyn, yn sicr. Mae dynion ifanc yn dal i farw yn nwylo Heddlu De Cymru, ac mae yn fwy ac yn fwy anodd i brotestio o ganlyniad i’r ffaith fod pŵer yr heddlu yn cynyddu. Maen nhw’n sefydliad hiliol, rhywiaethol ac mae’r iaith Gymraeg yn bodoli heddiw o ganlyniad i bobl fel Cymdeithas yr Iaith yn gwrthdaro gyda nhw. Ffaith.

 

  • Mynd ar daith waith i Ganada gyda’r Royal Court ar gyfer Push Festival Vancouver a wedyn i’r Almaen gyda’r daith Sorbaidd/Cymraeg gyda Chwalaw a Kolekiw Wakkum. Rydw i wastad yn teimlo mor freintiedig i deithio ar gyfer gwaith, ac roedd y ddau gyfle yma yn anturiaethau hollol wyllt – o rêf carafan gyda chandi fflos, perfformiad sain 4d ble ges i fy mhlymio mewn afon ddychmygol, i wylio sioe bwrlesg malwoden!

 

  • Eisteddfod Genedlaethol 2022 – wythnos o bron dim cwsg yn gigio gyda Band Pres Llareggub, Afrocluster ac Eadyth. Wedyn siarad ar baneli trafod a chyfarwyddo darn Bethan Marlowe, Brên. Calon. Fi. Dyma’r comisiwn cyntaf gan yr Eisteddfod sy’n fonolog am fenyw cwiyr, ac wedi ei berfformio, ei gyfarwyddo a’i ysgrifennu gan bobl cwiyr Cymraeg.

 

  • Rwy’n caru fy swydd cymaint: o sioe bwped llwyau cegin yn y Royal Court, fideo cerddoriaeth mewn iard sgrap gyda pherfformwyr drag, datblygu sioe gerdd cwiyr Cymraeg, sioe meim a chlown gyda beat boxers a fy nrama radio gyntaf… mae hi wedi bod yn flwyddyn amrywiol iawn o ran gwaith.

 

Dyw’r ‘hustle’ byth yn stopio, rwy’n gorfod cario ymlaen i weithio’n galed i gael swyddi yng Nghymru a Llundain, a hynny trwy gyfarfodydd ac ymestyn allan i alwadau ar drydar. Rwy’n ddiolchgar iawn am fy nghyd-gyfarwyddwyr ar y sîn theatr yn Llundain, a hynny mewn diwydiant mor greulon ac ansefydlog. Ond drwy’r rhwydwaith o gyfarwyddwyr a phobl yn y diwydiant sydd hefyd yn ffrindiau, maen nhw wedi atgyfnerthu fy nghariad at y byd theatr. Holly Adomah Thompson, Milli Bhatia, Phillip Morris, Steven Kavuma, Debbie Hannan, Ben Quashie ac Emily Aboud… chwedlonol yw pob un ohonyn nhw. Nhw sy’n ysbrydoli fi fwyaf o ran meddwl am ddyfodol mwy radical, arbrofol – ac un sydd ddim yn ymddiheuro – ar y sîn yn Llundain.

Fy ngobaith yn 2023 yw y byddwn ni’n gallu gweld cwymp y Torïaid, y Teulu Brenhinol a’r llywodraeth yn Iran. Ac y bydd mwy o bobl eisiau bod yn ddigon ddewr i gael sgyrsiau anghyfforddus am yr hiliaeth a systemau gormesol y mae ein sefydliadau yn dal ymlaen i’w cynnal. Yn bersonol, hoffwn fwy o anturiaethau creadigol a mwy o gyfleoedd i ddysgu a datblygu fy ngwaith ac arferion creadigol. Ymlaen!

Nadolig Llawen bawb.