Mae’r tridegau hwyr yn oed rhyfedd. Pan oeddwn i yn y coleg buaswn i wedi ystyried rhywun o’r fath oedran yn grair canoloesol, yn agosach i’r Rhufeiniaid na’r byd modern. Ac eto mae pobl hŷn yn dal i edrych arnom fel yr ifanc a’r annoeth, a chan ddweud nad ydi bywyd yn dechrau “go-iawn” nes bod rhywun yn ddeugain. Dwi’n meddwl bod pobl yn dweud hynny wrth i bob degawd mewn bywyd agosáu.