Yr wythnos ddiwethaf yn y Babell fe glywsoch chi am rai o senglau Dolig bechgyn y Sîn Roc Gymraeg, ac felly tro’r merched ydy hi’r wythnos hon i sôn am eu tiwns tinselwych tangnefeddus…

NON EDEN

Yn dathlu chwarter canrif o ganu fel grŵp eleni, mae’n rhyfeddod nad ydi Eden wedi rhyddhau cân Dolig cyn hyn. Ond “trît” ydi ‘Nadolig Adre Nôl’ a gafodd ei sgrifennu gan Caryl Parry Jones.

Non Williams sy’n dweud mwy am y sengl a sut Ddolig fydd hi…

Pam recordio sengl Dolig eleni?

“Roedd ‘Nadolig Adre Nôl’ yn benderfyniad eithaf munud olaf.

“Roedd o’n syrpreis i ni’n fwy nag unrhyw un. Wnaeth Caryl Parry Jones jest cysylltu efo ni’n dweud: ‘W! Mae gen i syniad am gân Nadolig, fysech chi’n licio recordio cân Nadolig?’

“A dwyt ti ddim yn mynd i ddweud ‘O, na, dim diolch’ wrth Caryl Parry Jones.

“Dim ond rhyw bythefnos yn ôl roedd hyn.

“Wnaethon ni weithio gyda’r cynhyrchydd Nate Williams a doedden ni heb weithio efo fo o’r blaen.

“Mae o wedi gweithio efo lot o bobol briliant fel Mared a Sŵnami, felly roedden ni gyd yn ffans ohono fo beth bynnag.

“Roedd o fel trît bach reit ar ddiwedd y flwyddyn.

“Rydan ni wedi bod yn dathlu 25 mlynedd ers i ni ddechrau, drwy’r flwyddyn, felly mae hwn jest yn teimlo fel presant bach i ni ar ddiwedd y flwyddyn.

“Roedd o’n hufen ar y gacen ar ddiwedd y flwyddyn i ni allu gwneud hyn.

“Rydan ni’n ffodus iawn efo Caryl.

“Mae hi wedi sgrifennu gymaint o ganeuon i ni ac mae hi wastad yn gwneud nhw’n berthnasol i ni.

“Achos rydan ni mor agos yn barod, mae hi wastad yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn ein bywydau ni i gyd, ac yn sgrifennu caneuon sy’n siwtio ni, ac mae’n gwneud o’n gymaint fwy pleserus i ganu wedyn.

“Rydan ni mor lwcus ei bod hi’n sgwennu JEST I NI!”

Hoff gân Dolig?

 “‘Last Christmas’ gan Wham!

“Mae’r Dolig wedi dechrau pan dw i’n clywed hwnna.

“Ond dw i hefyd yn hoffi ‘Y Baban Hwn’ gan Miriam Isaac a Dafydd Dafis. ‘Teilwng yw’r Oen’ hefyd, unwaith dw i’n clywed hwnna, it’s on – rydan ni’n gwybod bod y Dolig wedi cychwyn.”

Gigs dros y Dolig?

“Dydd Gwener diwethaf oedd yr olaf yn Aberystwyth.

“Noson lyfli, noson acwstig, sydd ychydig bach yn wahanol i ni.

“Noson eithaf tawel gyda ni’n canu ambell gân Nadolig, ac yn siarad lot hefyd, fel sgwrs rhwng ni a’r gynulleidfa.”

Sut fyddwch chi’n dathlu’r Dolig?

“Mynd at y teulu yn y gogledd.

“Dw i heb dreulio’r Dolig yna ers cyn Covid, mae rhywun wedi bod efo Covid dros y tair blynedd diwethaf.

“Ond fydda i gyda’r teulu yn Rhuddlan felly mae hwnna’n mynd i fod yn lyfli.

“Mae o’n gweithio allan yn lyfli i fi achos dw i’n gallu gadael y golwg draw yna a gyrru yn ôl adref ac anghofio amdano fo!

“Dw i’n edrych ymlaen i’r plant i gyd fod yn y car a chwarae caneuon Dolig!”

Be sydd ar y gweill i Eden yn 2023?

“Rydan ni’n gobeithio am lot o ganeuon newydd, un ai albwm neu lot o senglau.

“Gobeithio digon i greu albwm. Fyddwn ni’n cychwyn unwaith fydd y Dolig o’r ffordd.

“Fyswn i’n licio creu rhyw daith.

“Mae gennym ni gynlluniau lawr ar bapur.

“Ydyn ni’n mynd i allu gwneud nhw i gyd? Dyna ydi’r cwestiwn.

“Rydan ni wastad ychydig yn overambitious: ‘Dw i eisiau gwneud sioe fel Beyonce a Jennifer Lopez ac mae o’n myndi fod yn hiwj’. Ond aim big. Gawn ni weld.”

  • Mae ‘Nadolig Adre Nôl’ ar gael i’w ffrydio nawr 

LINDA GRIFFITHS

Does dim angen cyflwyniad i Linda Griffiths, sydd wedi hen ennill ei phlwy yng Nghymru fel brenhines canu gwerin. Yn aelod o’r grŵp Plethyn ynghynt, mae hi’n dweud ei bod wedi “hanner ymddeol” erbyn hyn…

Pam rhyddhau sengl Dolig?

“Wnes i sgrifennu ‘Hen Garolau’ pan ges i wahoddiad i fod ar raglen Heno yn 2016, ac wedyn wnes i anghofio amdani,” meddai Linda.

“Ac wedyn fis Rhagfyr y llynedd wnes i Noson Garolau yr Ysgwrn a wnaeth Branwen Williams o Recordiau I KA CHING holi os oeddwn i wedi recordio’r garol.

“Mewn wythnos roedd Gwennant Pyrs, sy’n arwain Côr Seiriol, wedi clywed y gân ac roedd gandi ddiddordeb cael y côr yn canu arni.

“Ro’n i’n meddwl ‘grêt’ achos dwi’n ffan mawr o’r Côr Seiriol.

“Y syniad tu ôl i’r gân ydi ro’n i’n cwestiynu pam ein bod ni’n canu’r hen garolau yma bob Nadolig, ac hwyrach ein bod ni’n canu nhw ond ein bod ni’n anwybyddu’r straeon tu ôl i’r caneuon ac yn rhy brysur i roi sylw i’r bobol sy’n dioddef yn y byd. Ro’n i’n cwestiynu pam fod pethau dal heb newid.

“Mi ddechreuodd hi fel rhyw fath o wrth-garol. Ond wrth i fi sgrifennu hi, wnes i sylweddoli mai’r neges yn yr hen garolau yw’r neges rydyn ni angen lledaenu, y neges o heddwch ac ewyllys da, a charu dy gyd-ddyn.

“Mae’r pennill gyntaf am fy nhaith i Fethlehem gyda Phlethyn yn ôl ym mis Rhagfyr 1994, a wnes i ddim mwynhau’r profiad o gwbl.

“Ro’n i’n gweld o’n tacky iawn, roedd y siopau yn gwerthu trinkets bach. Wedyn roedd tair eglwys fawr uwchben y man geni a’r offeriaid ydi’r brain sy’n hofran uwch y crud yn y pennill gyntaf.

“Roedden nhw’n eithaf hunanbwysig.

“Roedd e jest mor wahanol i’r darlun ti’n cael o’r stabl fach. Roedd e’n ddiddorol, ond wnes i ddim mwynhau’r profiad.

“Mae yna gyfeiriadau at Aleppo hefyd [yn ‘Hen Garolau’] ac er bod chwe blynedd ers be ddigwyddodd yna, mae o dal i ddigwydd jest bod o’n digwydd mewn rhan fach yn wahanol o’r byd.”

Hoff gân Dolig?

“‘Canol Gaeaf Noethlwm’ yw fy hoff garol i.”

Gigs dros y Dolig?

“Fydda i ddim yn perfformio dros y Dolig ond fel arfer fydda i’n cymryd rhan yng ngwasanaeth plygain Penrhyn Coch.

“Fydda i’n canu yn hwnna.

“Ond fydd y plygain yn cario ymlaen yn y flwyddyn newydd a fydda i’n canu hen garol plygain i gyfeiliant cerddorfa’r BBC.

“Dim byd exciting fel arall.”

Sut fyddwch chi’n dathlu’r Dolig?

 “Wel, mae pawb yn mynd i fod adref.

“Mae fy merched a’u partneriaid yn mynd i fod adref. [Mae Linda yn fam i driawd Sorela, Lisa, Gwenno a Mari, sydd hefyd yn perfformio gyda Cabarela].

“Bydd y merched wedi gorffen Cabarela ar y dydd Iau a fydden nhw adref o’r dydd Iau.

“Mae pawb wedyn yn cael chill out a bydd Wini fach, merch Lisa a Rhys, efo ni eleni hefyd.

“Jest Nadolig traddodiadol adref gyda’r teulu fel pawb arall siŵr o fod.”

Sut flwyddyn oedd 2022?

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda, dw i wedi mwynhau.

“Efo popeth sydd wedi digwydd efo Covid, mae hi wedi bod yn flwyddyn o ddechrau neu ailddechrau’r pethau roedden ni’n arfer gwneud… mynd ar wyliau, gweld pobol.”

Be sydd ar y gweill yn 2023?

“Mae gen i noson dw i a’r merched yn canu yn Llandeilo ddiwedd mis Ionawr.

“Dim byd o ran y canu, dw i wedi hanner ymddeol, ond mae yna fwy o deulu yn cyrraedd mis Chwefror – mae Lisa’n disgwyl babi.”

  • Mae ‘Hen Garolau’ ar gael i’w ffrydio nawr

KATIE HALL

Am y tro cyntaf eleni mae Katie Hall, canwr Chroma, wedi cydweithio gyda’r band Hyll o Gaerdydd, ar sengl Nadoligaidd.

Mae ‘Noson Dolig wrth y Bar’ yn nodweddiadol o sain Hyll, a’r geirios ar y gacen ydi llais Katie.

Pam recordio sengl Dolig?

 “Wel wnaeth Iwan o Hyll jest holi os oeddwn i eisiau bod yn rhan ohono fe.

“Dydyn ni heb gydweithio o’r blaen, ond wnaeth o ddweud bod nhw’n trio cael rhywbeth sydd efo teimlad Kirsty MacColl a ‘Fairytale of New York’, felly ro’n i fel, go on then.

“Roedd e jest yn gyfle i helpu mêts mas.

“Ni wedi nabod ein gilydd ers blynyddoedd nawr.

“Mae wastad yn neis cydweithio gyda bandiau eraill hefyd.

“Mae fe ddim yn rhy cringe chwaith, ond mae dal bach o cheese, felly ro’n i’n meddwl bod e’n gydbwysedd neis.

“Dwi’n caru caneuon Dolig ond does gen i ddim y mynadd i sgrifennu un ar gyfer Chroma, felly roedd o’n rili neis jest cael un wedi’i wneud yn barod!”

Hoff gân Dolig?

 “Mae’n anodd achos mae’n newid bob blwyddyn, ond ‘Stay Another Day’ gan East 17, y typical boy band o’r 90au.”

Gigs dros y Dolig?

“Mae gyda ni [Chroma] gig yn Le Pub yng Nghasnewydd ar yr 28ain o Ragfyr.

“Dyle hwnna fod yn gwd.”

Sut fyddwch chi’n dathlu’r Dolig?

“Fi’n mynd i fod yn mynd adref i dŷ rhieni fi yn Aberdâr.

“Gobeithio ga i weld lot o ffrindiau dros y cyfnod.

“Fi ddim yn gwneud unrhyw beth fancy i ddathlu.

“Fi jest yn edrych ymlaen am amser ffwrdd o’r gwaith i fod yn onest!”

A sut flwyddyn oedd 2022?

 “Grêt… y tro cyntaf i ni ryddhau cerddoriaeth am amser rili hir.

“Yn y dechrau ro’n i’n sgrifennu a recordio, ond wedyn wnaethon ni ryddhau [yr EP Llygredd Gweledol] dros yr haf gyda Recordiau Libertino.”

Be sydd ar y gweill yn 2023?

“Mae o’n teimlo fel blwyddyn o ailgychwyn i ni fel band.

“Roedd 2022 yn flwyddyn dda ond ni’n rili edrych ymlaen i weld be sy’n digwydd yn 2023.

“Rydyn ni’n gobeithio rhyddhau albwm.

“Ac mae gennym ni cwpl o gigs on the cards ond s’dim byd i gyhoeddi eto.”

  • Mae ‘Noson Dolig wrth y Bar’ ar gael i’w ffrydio nawr