Mae disgwyl i gorgi trilliw a gafodd ei fagu yng Ngheredigion ddod yn enwog ar draws y byd yn sgil ei ran mewn ffilm newydd.
Bydd Bonbon, a gafodd ei fridio gan Caryl Griffiths yn Llangybi ger Llanbedr Pont Steffan, yn ymddangos mewn ffilm Nadolig gan gwmni Americanaidd Hallmark dros y gaeaf.
Cafodd y Corgi Sir Benfro ei werthu i gwpwl o Brixton yn Llundain y llynedd, gydag addewid i Caryl y bydden nhw’n trio’i gael ar y sgrin. “O, rili?” oedd ymateb Caryl ar y pryd, ond roedd y prynwyr yn agos i’w lle a bydd Bonbon yn gwneud ei farc yn y A Royal Corgi Christmas.
Gwerthwyd y corgi, a’i frodyr a’i chwiorydd, am £3,000 yr un, ac mae Caryl yn prysur wneud enw iddi hi ei hun yn y byd bridio corgis.
Mae Mam Caryl yn hen law ar fridio cŵn, a hithau wedi bod yn magu rhai Cavelier King Charles, bichon frisé, cavapoos, sy’n groes rhwng Cavalier King Charles a phwdl, a cavachons, sef croes rhwng Cavelier a bichon frisé, ers 45 mlynedd.
Doedd hi ddim yn syndod felly bod Caryl wedi cydio yn y diddordeb ac wedi dechrau bridio ar fferm ddefaid a gwartheg y teulu.
“Prynodd mam gorgi i fi’n anrheg Nadolig, ac Maggie oedd hi, sef mam Bonbon,” eglura Caryl, sydd ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd o’i gwaith gyda chwmni o gyfreithwyr yn Aberaeron.
“Penderfynais i gael cŵn bach mas ohoni hi yn 2020, ac mae hi wedi mynd o fan hynny, mewn gwirionedd.
“Doeddwn i ddim wir moyn corgi, ond prynodd mam hi ac roeddwn i dal i feddwl: ‘Sa i wir moyn un’. Ond, unwaith welais i hi, dyna’r ci gorau oedd yn y byd.”
Ar hyn o bryd, mae yna tua phymtheg ci ar y fferm, gan gynnwys dau gorgi – mam a chwaer Bonbon – a chwe chorgi bach yn aros i fynd i gartrefi newydd.
Gadael mewn bag am Brixton
Roedd Caryl yn meddwl ei bod hi’n gwthio’i lwc wrth ofyn am £3,000 yr un am Bonbon a’i frodyr a chwiorydd, ond mae pobol yn fodlon talu am gŵn o safon.
“Fi oedd yr hysbyseb mwyaf drud ar [Pets4Homes] ond rhoddes i £3,000 achos roeddwn i wedi gwario shwt gymaint o arian ar yr health screening cyn cael y cŵn bach a doedd y bridwyr eraill heb. Drïais i £3,000 achos roeddwn i’n gweld bod nhw werth hynny achos fy mod i wedi rhoi gymaint o waith mewn iddo fe cyn cael y cŵn bach.”
Bonbon oedd yr unig gi bach ar ôl pan ffoniodd cwpwl o Brixton – hithau o Tsieina a fynta o Ffrainc – yn holi amdano.
“Roedden nhw ar eu gwyliau felly gofynnon nhw os fedrwn i gadw Bonbon dipyn bach yn hirach,” esbonia Caryl.
“Roedd e tua 13 wythnos yn mynd oddi yma. Halon nhw fag lawr trwy’r post, a dalon nhw drên o Paddington i Gaerfyrddin, a bws o Gaerfyrddin i Lanbed, ac wedyn es i i nôl nhw o Lanbed i tŷ ni i gael cwrdd â’r fam a ni, a gweld o le oedd y ci bach wedi dod.
“Wedyn es i’n ôl â nhw i gwrdd â’r bws, ac aeth Bonbon yn y bag. Wedodd hi bod hi’n mynd i drio cael e ar y teledu a ffilmiau, ac roeddwn i’n meddwl: ‘O, rili?’ Ond mae hi wedi! Fi ffaelu credu fe.”
Mae disgwyl i’r ffilm A Royal Corgi Christmas gael ei dangos rownd y byd, gan ddechrau yn yr Unol Daleithiau. Mae’r ffilm yn dilyn tywysog anfoddog, Edmund, sy’n dychwelyd adref ychydig cyn y Nadolig gan ragweld y bydd yn cael ei enwi’n olynydd i’r orsedd. Ond mae ei fam yn rhoi corgi iddo, ac mae’n rhaid iddo fwrw ati i hyfforddi’r ci trafferthus. Daw arbenigwraig ar ymddygiad cŵn i’r adwy, ac mae hithau a’r corgi’n gwneud i’r tywysog gwestiynu ei ddymuniadau a’i obeithion.
Mae Bonbon eisoes wedi bod yn ffilmio yn Nulyn, ond cyn gadael Llangybi doedd y corgi heb wneud dim gwaith hyfforddi. Y prynwyr newydd sydd wedi dysgu’r holl driciau iddo.
“Mae’r ci yn ofnadwy o glyfar, mae’n gwneud bob sort o trics,” meddai Caryl.
“Roedd e’n gi drwg, roedd e’n arfer rhedeg mas i’r cae o hyd – rhedeg ar ôl y da [gwartheg] o hyd. Mae ei chwaer lawn e gyda fi yn fan hyn nawr, mae hi’n eithaf tebyg o ran personoliaeth. Mae Binky, sef chwaer lawn Bonbon, â diddordeb mewn gwartheg, maen nhw’n dod ymlaen.”
Galw mawr am gorgis
Er mai ci trilliw yw Bonbon, coch a gwyn ydy ei fam a’i chwaer, ond maen nhw’i dwy yn cario’r genyn trilliw hefyd. Y tro hyn, mae Caryl wedi cael cymysgedd o gŵn bach deuliw a thrilliw gan Binky.
“Maen nhw’n gŵn neis – colli lot o flew – ond maen nhw’n ffeind iawn, eithaf doniol â dweud y gwir,” meddai Caryl am y brîd.
“Mae’r cŵn bach i gyd wedi gwerthu, mae waiting list gyda fi ers llynedd. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi prynu yn 2020 ac wedi dod yn ôl a moyn brawd neu chwaer neu ffrind i’r ci bach. Mae gen i Instagram i fy nwy gorgi i [@maggie_binky_pembcorgis], a dyna o le mae lot o fy mhrynwyr i wedi dod – maen nhw’n gweld lluniau ohonyn nhw, beth maen nhw’n ei wneud, lluniau ohonyn nhw gyda’r da [gwartheg], lluniau gyda’r defaid. Dw i byth wedi cael dim ffwdan i’w gwerthu nhw. Dw i’n rhoi lluniau lan bob dydd ac mae pobol yn gallu gweld fel mae’r cŵn yn byw.”
Dyma’r tro cyntaf i un o gŵn y teulu gyrraedd y sgrin fawr, ond mae un o’u cavachons, sydd bellach yn byw yn Nyfnaint, i’w weld ar hysbyseb teledu yn aml, meddai Caryl.
“Rydyn ni wedi gwerthu un cavachon o’r blaen i rywun sy’n gweithio i Wayfair, y cwmni celfi, ac mae’r cavachon yna’n aml yn y PR, y lluniau ac ati!”
Dydy bridio ddim yn waith hawdd na rhad chwaith, meddai Caryl, ac mae magu’r corgis yn enwedig yn cymryd lot o arian ac amser.
“Dw i wedi gorfod hala lot o arian ar yr health screening iawn cyn ein bod ni’n gallu cael cŵn bach. Digon agos i £1,000. Mae’n galed i ffeindio ci sydd yn addas hefyd, ond dw i’n dechrau gwybod pwy yw pawb a be sydd gan bawb nawr felly dw i’n gwybod i bwy i ofyn. Mae’n eithaf stressful i wybod pryd [i gael ci at yr ast], ac mae tipyn o risgiau ac mae’n eithaf lot o arian. Mae ci’n eithaf drud i gael, rydyn ni’n gorfod talu £500 a mwy. Dw i’n gwybod fy mod i’n mynd i wneud yr arian yna’n ôl, ond mae’n lot o arian i ddechrau cyn cael y cŵn bach.”
Faint o amser Caryl sy’n mynd tuag at edrych ar ôl y cŵn, felly?
“90% o’r amser! Amser roeddwn i’n gweithio, roeddwn i’n codi am bump yn y bore a mynd mas i wneud y cŵn cyn mynd i’r gwaith. Roedd mam yma drwy’r dydd, ac roedd hi’n gallu edrych ar ôl nhw yn y dydd. Wedyn pan oeddwn i’n dod yn ôl o’r gwaith am bump o’r gloch bydden i’n dechrau eto. Bydde fe’n reial gwaith caled, ac os oes cŵn bach yma bydde fe’n fwy o waith.
“Dw i’n gobeithio nawr, pan fydda i’n mynd yn ôl i gwaith, mynd yn ôl dau neu dri diwrnod a chanolbwyntio mwy ar hyn. Dw i wedi adeiladu enw i fi’n hunan efo’r corgis nawr, felly trio canolbwyntio mwy ar y bridio. Mae gyda fi waiting lists ar gyfer rhagor nawr, felly mae eisiau rhagor o gŵn bach arna i nawr – mae pobol yn aros amdanyn nhw.”
- Gallwch ddilyn hynt a helynt Bonbon yn ei gartref newydd yn Llundain ar Instagram hefyd, @monsieurr.bonbon