Nev yn cael paentio'i winedd
Casia William sy’n dod a’r diweddaraf o’r tu ôl i’r camera ar ddiwrnod pump …

Diwrnod Pump

Erbyn hyn mae criw Cariad@Iaith wedi dod i adnabod ei gilydd yn well ac mae yna lot o dynnu coes a chwarae’n wirion yn mynd ymlaen.

Mewn gwers hwyliog efo Nia bore ‘ma roedd y criw yn gorfod pario geiriau Cymraeg gyda geiriau Saesneg, ac mae’n braf gweld llawer un yn cyffroi wrth weld faint maen nhw’n cofio ac yn dechrau llunio brawddegau.

Cofiwch fod sawl un o griw eleni yn ddechreuwyr pur (Neville Southall, Behnaz a Siân) felly mae gallu darllen a deall a siarad ychydig mewn mater o ddyddiau yn dipyn o gamp.

Mae eraill wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg yn y gorffennol ond heb ddefnyddio’r iaith ers tro, ac yn araf bach mae Nia ac Ioan yn cael gwared a’r holl we cop sydd wedi casglu dros y blynyddoedd ac mae’r Gymraeg yn dod i’r fei.

Tua diwedd y wers mae H yn datgan, “Mae pen tost gyda fi”, cyn ychwanegu yn orfoleddus, “Oh I just remembered that from school!”.

Mae tipyn o Gymraeg yn llechu yng ngorffennol Sam hefyd gan ei fod wedi mynychu Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd Gymraeg, ond gan ei fod wedi ei eni wedi colli 70-80% o’i glyw, roedd yn rhaid iddo ganolbwyntio ar ddarllen gwefusau a hynny yn Saesneg.

“I learnt the basics in school but I was a bit of a naughty boy and a bit of a class clown as well,” meddai Sam. “I’d say that my pronunciation is pretty good because I started Welsh from a young age, so I feel quite lucky because of that, but it was difficult because of my hearing.

“But by now I’m embarrassed that I’m the only one in my family who can’t speak Welsh and I want to get in with the family. And the thought of having a second language is quite cool isn’t it?”

Ydi wir Sam, ac mae’n braf clywed llawer o Gymraeg yn dod yn ôl i Sam wrth iddo gael ei drwytho yn yr iaith drwy’r wythnos.

Wedi’r wers mae’n amser am weithgaredd y dydd a thra bod un criw yn ceisio dringo wal ar gopa’r Nant mewn gwynt a glaw, mae’r criw arall yn ymlacio mewn salon yng Nghricieth.

Mae’r hwyl yn dechrau wedi i’r therapydd harddwch esbonio mai peintio ewinedd a thylino breichiau fydd Jenna, Neville, Siân a H.

Honestly, mind!

Mae pawb yn ei dyblau wrth i Jenna adrodd ei hanes hi yn mynd am massage tra amheus yng Nghaerdydd un tro.

“Honestly mind, they just rubbed oil on my boobs for about twenty minutes. Is that normal?!” gofynnodd Jenna.

A fedrai ddim peidio meddwl, a oedd cyn gôl-geidwad Cymru yn meddwl y byddai’n cael peintio ei ewinedd yn las mewn salon harddwch pan gytunodd i fynd ar gwrs dysgu Cymraeg?

Gwallgofrwydd

Mae blinder, cyffro a thon enfawr o eiriau Cymraeg yn creu tipyn bach o hysteria ymysg y dysgwyr yng ngwers y prynhawn. Mae pen-ysgwyddau-coesau-traed yn ffwndro pawb, a neb cweit yn deall pam mai feet fingers yw ‘toes’ yn Gymraeg.

Mae Sam yn cael tro ar y camera ac yn cael hwyl wrth saethu mewn ar rannau anweddus o Jenna, ac mae Jenna yn bedyddio ei hun yn ‘Tywysoges Jenna’.

Yng nghanol y gwallgofrwydd mae Suzanne fel ynys o lonyddwch, yn gwrando’n astud, yn cymryd nodiadau ac yn canolbwyntio cant y cant.

“I find the singing and dancing works for me – the rhythm helps.” Meddai’n frwdfrydig wrth drafod y gwersi.

“I’m a musical person and I also teach. I was trained as a teacher, and in drama as well so I find that doing these things aid the brain, it helps the muscle memory and helps keep things in.

“Having been a teacher it’s interesting for me being on the other side but luckily I’ve been to drama school so I don’t mind doing all these things!”

Dyma sut mae hi’n ymdopi mor dda gyda’r drama queens sydd o’i chwmpas mae’n rhaid.

Gwyliwch Cariad@Iaith:Love4Language heno ar S4C, yn dechrau am 8.25pm ac yn parhau am 9.30pm ar ôl y Newyddion.

Gallwch hefyd ddarllen y blogiau eraill can Casia yn wythnos hon ar Flog Celfyddydau golwg360.