Rik Mayall
Mae angladd preifat y digrifwr a’r actor Rik Mayall yn cael ei gynnal y prynhawn ‘ma.

Bu farw Rik Mayall, oedd yn 56 oed, yn sydyn yn ei gartref yn Llundain ddydd Llun diwethaf ar ôl dioddef o broblemau gyda’i  galon.

Roedd Rik Mayall  yn fwyaf adnabyddus  am chwarae Rick yn y gyfres The Young Ones, ac roedd hefyd wedi ymddangos mewn cyfresi teledu fel Blackadder, Bottom a The New Statesman.

Roedd 140 o alarwyr wedi dod ynghyd yn Eglwys San Siôr yn Dittisham, Dyfnaint heddiw ar gyfer ei angladd gan gynnwys dau o’i gyd-actorion yn The Young Ones, Adrian Edmondson a Nigel Planer.  Yno hefyd roedd  Ben Elton, Ruby Wax, Jennifer Saunders a Dawn French.

Cafodd ei anafu’n ddifrifol mewn damwain beic pedair olwyn yn 1998 a bu mewn coma am rai dyddiau, ond bu’n gweithio tan yn ddiweddar.

Mae’n gadael gwraig a thri o blant.