Louis Tomlinson
Mae’n ymddangos nad yw bod yn un rhan o bump o un o’r bandiau mwyaf poblogaidd ar y blaned yn ddigon i Louis Tomlinson o One Direction.

Heddiw fe gafwyd cadarnhad fod y seren bop wedi prynu clwb pêl-droed Doncaster Rovers, clwb y mae wedi’i gefnogi ar hyd ei oes.

Mae’r llanc 22 oed yn dipyn o chwaraewr beth bynnag, gan ymddangos i ail dîm Doncaster nôl ym mis Chwefror o flaen torf o 10,000.

Mae Tomlinson eisoes wedi ceisio prynu’r clwb ddwywaith, ond bu rhwystrau oherwydd  ei hawliau delwedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Tomlinson ei fod nawr wedi prynu’r clwb, sydd newydd ddisgyn i Gynghrair Un, gyda’r cyn-gadeirydd John Ryan.

“Mae wedi’i wneud, maen nhw wedi cymryd drosodd,” meddai’r llefarydd wrth y Press Association.

Roedd Ryan yn gadeirydd yn y clwb am 15 mlynedd cyn gadael y llynedd, gan arwain Doncaster o’r Gyngres i’r Bencampwriaeth.

Fe wnaeth Tomlinson ei ymddangosiad dros y clwb ym mis Chwefror fel rhan o ymdrechion i godi arian i elusen Bluebell Wood.

Dyw’r cadeirydd Ryan ddim yn ddieithr i ychydig o amser ar y cae chwaith – yn 2003, ag yntau’n 52 oed, fe ddaeth a’i hun ymlaen i’r cae fel eilydd ar ôl i Doncaster sicrhau dyrchafiad o’r Gyngres.