Aled Williams ar y wifren zip Llun: Antena
Fe fydd myfyriwr o Lanrug y cyntaf i deithio’n noeth ar wifren zip (zip wire) ym Methesda.

Penderfynodd Aled Williams, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ei fod am roi cynnig arni ar ôl methu â chwblhau sialens arall yn y gorffennol.

Bydd ei ymgais yn cael ei recordio gan gwmni Antenna ar gyfer rhaglen Y Lle ar S4C.

Nid dyma’r tro cyntaf i Aled ymddangos ar y rhaglen.

Mae e eisoes wedi rhoi cynnig ar ‘bathtubbing’ – rhwyfo bath – yn y gobaith o gyrraedd y lan.

Ond suddo bob tro fu ei hanes.

Bydd Aled yn ymgymryd â’r sialens ddiweddaraf yn Zip World am 10 o’r gloch heddiw, ac fe fydd ei ymdrechion yn cael eu darlledu heno.