Dw i’n aml yn cael fy nenu at ddramâu teledu sy’n llawn dirgelwch, cyfrinachau ac amwysedd. Maen nhw’n caniatáu i fi geisio datrys problemau wrth i’r plot ddatblygu.
Wrth ddarllen synopsis ar gyfer drama newydd ITV, ‘Undeniable’, oedd yn cael ei darlledu mewn dwy ran, dyw hi ddim yn syndod felly iddi ddal fy sylw.
Roedd disgrifiad y ddrama yn argoeli llond trol o ddirgelwch a gwrthdaro wrth i ddynes gredu ei bod wedi gweld llofrudd ei mam 23 o flynyddoedd wedi’r digwyddiad.
Camgymeriad Jane?
Roedd rhan gyntaf y ddrama’n ddifyr iawn gyda dynes, Jane, yn benderfynol ei bod wedi gweld llofrudd ei mam, ar ôl iddi dystio’r digwyddiad pan oedd hi’n saith oed. Oncolegydd proffesiynol, parchus sydd wedi ennill OBE yn ei faes yw’r dyn sy’n cael ei gyhuddo o fod yn llofrudd, sef Andrew Rawlins.
Cawn wybod o’r dechrau hefyd fod Jane yn osgoi cymryd ei thabledi sy’n trin ei iselder. Gall hyn achosi dryswch a pharanoia. Roedd hyn i gyd yn awgrymu i’r gynulleidfa fod Jane wedi drysu ac nid Andrew Rawlins oedd gwir lofrudd ei mam.
Gwelwn effaith hyn ar Jane wrth i’w bywyd chwalu. Mae’r heddlu a’i theulu’n amau fod ei stad feddyliol yn fregus. Yn wir, erbyn diwedd y rhan gyntaf doeddwn wir methu rhagweld sut roedd y ddrama am ddatblygu, gan fod prawf DNA wedi profi nad Andrew Rawlins oedd y llofrudd. Pwy felly oedd y llofrudd iawn?
Y ddrama’n dirywio
Drwy’r ddrama, gwelwn effaith galar Jane arni. Mae poen ei cholled yn ei gyrru i geisio darganfod llofrudd ei Mam. Roedd perfformiad Claire Goose, a actia Jane, yn emosiynol a chredadwy, ac fe wnes i fwynhau ei gwylio.
Er i mi fwynhau rhan gyntaf y ddrama, doeddwn i ddim yn gweld yr ail ran mor afaelgar. Roedd datguddiad y plot erbyn y diwedd yn eithaf amlwg ac roeddwn wedi rhagweld beth fyddai’n digwydd.
Roedd hefyd wedi digwydd mor ddisymwth gyda chymeriad newydd, na fu’n rhan o’r ddrama ar y dechrau, yn datgan wrth Jane beth ddigwyddodd i’w mam.
Ar y cyfan ro’n i’n teimlo’n siomedig ag ail hanner y ddrama. Erbyn diwedd y rhan gyntaf roedd y ddrama’n llawn dirgelwch, ond erbyn yr ail roedd wedi colli’r naws hwnnw.
Hefyd, teimlais fod datguddiad y plot lle cawsom wybod am lofruddiaeth mam Jane yn digwydd yn rhy sydyn ac yn frysiog. Felly, er bod syniad y stori’n un gwreiddiol, ni chyrhaeddodd y ddrama ei photensial.
Marc: 6/10
Gallwch ddilyn Mirain ar Twitter ar @MirainAlaw.