Jimmy Savile (jmb CCA 2.5)
Mae hysbysebion papur newydd yn gofyn am geisiadau iawndal gan bobol a gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan y darlledwr, Jimmy Savile.

Dan drefniant sydd wedi ei gytuno gyda llys barn, fe fyddan nhw’n gallu hawlio arian gan y BBC a’r Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal ag o ystâd Jimmy Savile ei hun.

Yr argymhelliad yw fod pobol yn gwneud eu ceisiadau o fewn  y chwech wythnos nesa’, erbyn 3 Mehefin, ond fe fydd y drefn iawndal yn agored am flwyddyn.

Ymosodiadau rhywiol

Mae 140 o bobol eisoes wedi gwneud cwynion am ymosodiadau rhywiol gan y cyflwynydd teledu a fu farw yn hydref 2011 yn 84 oed.

Mae’r rheiny’n cynnwys ymosodiadau anweddus ac achosion o dreisio yn adeiladau’r BBC ac mewn ysbytai lle’r oedd Jimmy Savile yn gwirfoddoli.

Yn ôl y BBC, fydd dim un taliad yn fwy na £60,000 ac mae cyfreithwyr yn dweud nad ydyn nhw’n disgwyl llawer o gwynion newydd.