Bryn Fon
Bryn Fôn sydd wedi cael y gwaith o ddilyn Edward H Dafis gyda pherfformiad mawr yr wythnos ar lwyfan agored yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Fe fydd y canwr o Lanllyfni yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed gyda gig ar y nos Wener, yn sgil perfformiad y llynedd pan ddenodd Edward H filoedd o bobol i’r maes.

Fe fydd y grŵp Mynediad am Ddim hefyd yn dathlu 40 mlynedd o ganu wrth gloi’r wythnos ar y llwyfan agored nos Sadwrn.

Yn y Pafiliwn, mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys noson gan Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin, gala agoriadol gan bobol ifanc lleol a’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, yn arwain Noson Lawen.

‘Balch’ – meddai’r Trefnydd newydd

“Rwy’n falch iawn o’r rhaglen gyda’r nos eleni, nid yn unig yn y Pafiliwn, ond hefyd ar Lwyfan y Maes, ac o amgylch y Maes yn ystod yr wythnos,” meddai Trefnydd newydd yr Eisteddfod, Elen Elis, wrth gyhoeddi ei rhaglen gyngherddau gynta’.

“ Rwy’n credu y bydd yr amrywiaeth yn apelio at nifer fawr o ymwelwyr hen a newydd, ac rwy’n sicr bod stamp Sir Gâr i’w weld yn glir, yn enwedig yn ein rhaglen gyngherddau yn y Pafiliwn.”