Galarwyr yn cyrraedd yr eglwys (Llun: Gareth Fuller/PA Wire)
Cynhaliwyd angladd preifat Peaches Geldof yn yr union eglwys ble wnaeth hi briodi yn 2012 a ble cynhaliwyd angladd ei mam Paula Yates yn 1986.

Roedd nifer o wynebau cyfarwydd ymhlith y galarwyr gan gynnwys Sarah Ferguson, Jools Holland a Kate Moss.

Mae’r eglwys y drws nesaf i stâd Davington Priory, cartref ei thad Bob Geldof, ble gafodd Peaches ei magu.

Bydd ei llwch yn cael ei chwalu ar dir y stâd.

Daethpwyd o hyd i gorff Peaches Geldof yn ei chartref yn Wrotham, Swydd Caint ar 7 Ebrill ond dyw achos ei marwolaeth ddim wedi cael ei ganfod hyd yma.