Rhan o Lwybr yr Arfordir
Mae dau syrfewr wnaeth fesur Llwybr yr Arfordir ar gyfer Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn 2012, wedi cyhoeddi’r cyfeirlyfr cyntaf am y ffordd o‘r Fferi Isaf yn Sir y Fflint i Gas-gwent.
Mae’r llyfr “The Wales Coast Path – A Practical Guide for Walkers” yn cael ei gyhoeddi gan St. David’s Press o Gaerdydd ac wedi ei ysgrifennu gan Christopher Goddard a Katherine Evans.
Mae’r llyfr wedi rhannu’r llwybr 896 milltir o hyd i nifer o deithiau rhwng naw a 15 milltir yr un ac mae’n cynnwys cyfeiriadau at safleoedd o ddiddordeb hanesyddol a daearyddol ac at fywyd gwyllt.
Cymru yw’r wlad gyntaf i gael llwybr ar hyd ei harfordir gan ddenu clôd gan gyfres ‘Lonely Planet’ yn 2012 wnaeth nodi mai arfordir Cymru o’r herwydd oedd y rhanbarth gorau ar gyfer teithio y flwyddyn honno.
Mae’r awduron hefyd yn llawn canmoliaeth am y llwybr gan ei ddisgrifio fel campwaith.