Cynhelir yr ŵyl yn 'Galeri' Caernarfon
Mae’r drydedd Ŵyl Delynau Ryngwladol wedi agor yn Galeri, Caernarfon gan ddenu 80 o delynorion o bob cwr o’r byd i gystadlu a chymdeithasu trwy gydol yr wythnos.

Agorwyd yr ŵyl gan y telynor byd-enwog Osian Ellis, ddisgrifiodd y digwyddiad fel “gŵyl anhygoel ac anghyffredin”.

Canolfan Gerdd William Mathias sydd wedi trefnu’r ŵyl, ac mae’n cael ei chynnal unwaith bob pedair blynedd. Mae’r Cyfarwyddwr, y delynores Elinor Bennett yn falch ei bod yn mynd o nerth i nerth.

“Dyma’r drydedd ŵyl ac mae’n bwysig am ei bod yn rhoi cyfle i bobl o bedwar ban byd ddod at eu gilydd i rannu eu cariad at gerddoriaeth a goresgyn ffiniau, iaith, hiliaith, gallu a chefndir,” meddai.

“Mae hefyd yn brofiad gwych i bobl ifanc gael perfformio a chystadlu ar lefel rhyngwladol,” ychwanegodd.

Mae’r ŵyl eleni yn dathlu penblwydd y cyfansoddwr William Mathias ac yn benodol felly ei gerddoriaeth ar gyfer y delyn.

Mae ei ferch, Rhiannon Mathias, yn falch bod yr ŵyl yn rhoi llwyfan i gerddorion ifanc o wahanol wledydd gael golwg newydd ar ei etifeddiaeth gerddorol. Roedd y cyngerdd agoriadol yn ddathliad o’i fywyd a’i waith.

“Roedd fy nhad yn byw sawl bywyd cerddorol gwahanol – yn gyntaf ac yn flaenaf, fel cyfansoddwr, ond hefyd fel arweinydd, pianydd, Athro Cerdd ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru i nodi dim ond rhai,” meddai.

“Petai wedi cael byw i’w gweld buasai’n arbennig o falch o’r addysg gerddorol sy’n cael ei ddarparu gan y Ganolfan Gerdd sydd wedi ei henwi ar ei ôl.”

Mae’r Ŵyl Delynau Ryngwladol hefyd wedi denu nifer o noddwyr blaenllaw ac yn eu plith Sefydliad Confucius o Brifysgol Bangor sy’n ceisio hybu cyfnewid diwylliant rhwng Tsieina a Chymru.

Yr Athro Liying Zhang yw Cyd-Gyfarwyddwr y Sefydliad.

“Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o hybu cyfnewid diwylliant felly rydyn ni’n falch iawn o gael bod yn un o’r noddwyr. Mae gan Cymru a Tsieina ddreigiau a bwriad ein prosiect ‘Cynllun y Ddraig’ yw hybu cerddoriaeth Gymraeg yn Tsieina ac i’r gwrthwyneb, yn enwedig fel rhan o Ŵyl Rynglwadol Shanghai eleni,” meddai.

Mae cystadleuthau a’r cyngherddau yn cael eu cynnal yn Galeri trwy gydol yr wythnos ac mae’r tocynnau ar gael trwy ffonio 01286 685222 a rhagor o wybodaeth ar dudalen facebook, blog a thrydar yr Ŵyl.