Band Pres Ysgolion Sir Benfro, wedi'r fuddugoliaeth
Bedair blynedd yn unig ers sefydlu Band Pres Ysgolion Sir Benfro, mae’r grwp newydd ennill pencampwriaeth Brydeinig.

Fe ddaeth y band i’r brig trwy guro naw o fandiau eraill yn y gystadleuaeth i fandiau pres dan-18 oed a gafodd ei chynnal ym Mhrifysgol Salford, Manceinion.

Mae 43 o offerynwyr yn y grwp, sy’n cael ei arwain gan Matthew Jenkins. Fe enillon nhw wobr ariannol o £350, ynghyd a chwpan.

Fe wnaeth y band argraff ar y beirniaid gyda pherfformiad cofiadw o’r darn prawf – ‘A Colwell Suite’ gan Philip Harper, ynghyd a’u darnau hunan ddewisiad, ‘Champions’ gan Ryan Howells, ‘Ar Hyd y Nos’ a ‘Toccata yn D Leiaf’ Bach.