Bu farw’r awdur, Gabriel Garcia Marquez, yn ei gartre’ yn Ninas Mecsico, yn 87 mlwydd oed.
Roedd yr enillydd Gwobr Nobel wedi cyhoeddi degau o straeon byrion a nofelau, ac wedi dod a miliynau o bobol America Ladin i gyswllt a’r byd llenyddol trwy ei waith.
Ef, yn ol y sylwebwyr, oedd awdur iaith Sbaeneg mwya’ poblogaidd ers Miguel de Cervantes yn y 17eg ganrif.
Ymysg ei weithiau mwya’ poblogaidd yr oedd ‘Chronicle Of A Death Foretold’, ‘Love In The Time Of Cholera’ ac ‘Autumn Of The Patriarch’, a gafodd eu cyfieithu i’r Saesneg.
Ond efallai mai ei nofel epig ‘One Hundred Years Of Solitude’, a gyhoeddwyd yn 1967 ac a werthodd dros 50 miliwn o gopiau mewn 25 o ieithoedd, oedd ei waith mwya’.