Mae trefnwyr TregaRoc wedi cyhoeddi manylion yr ŵyl newydd sbon yn Nhregaron.
Bydd yr arlwy o adloniant byw yn symud o amgylch nifer o leoliadau’r dref ar brynhawn a nos Sadwrn, Mai 17.
Yn agor y cyfan mae Gwibdaith Hen Frân, fydd yn perfformio yng ngwesty’r Talbot am 3yp.
Bydd y canwr Paul Dark yn diddanu yn nhafarn y Llew Coch am 4.30yp.
Draw yng Nghlwb Bowlio’r dref am 6yp, bydd cyfle i wrando ar Meinir Gwilym cyn symud i’r Clwb Rygbi, lle bydd canwr lleol arall, Ian Rowlands yn perfformio.
Bydd y noson yn dod i ben mewn pabell ger y clwb rygbi, gyda Sŵnami, Newshan, Gwibdaith Hen Frân a’r cyflwynydd lleol, Ifan Jones Evans.
Mae modd prynu tocyn am £10 o wefan TregaRoc.