Caryl Burke
Mae dechrau’r bedwaredd gyfres wedi dal sylw Caryl Burke, sy’n bwrw’i golwg ar y newidiadau diweddaraf yn Ysgol Bro Taf…
{RHYBUDD: mae’r adolygiad canlynol yn sôn am rai o ddigwyddiadau dwy bennod gyntaf Gwaith/Cartref}
Yn dilyn tair cyfres lwyddiannus, roedd y gyfres ddrama Gwaith/Cartref yn dychwelyd i’r sgrin fach ar 12 Ionawr. Roedd pennod olaf y gyfres ddiwethaf wedi gadael llawer ar bigau’r drain gydag amryw o gwestiynau heb eu hateb – a fyddai perthynas Grug a Dan yn goroesi’r ffraeo ffyrnig? Ydy Dan wedi goroesi’r siwrna’ yn nhacsi Mr Hancock? A gaiff y gwir ei ddatgelu am ‘salwch’ Louise?
Galar Grug
Roedd atebion i’r cwestiynau hyn i gyd, a llawer mwy, yn y ddwy bennod gyntaf a gychwynnodd drwy ddatgelu tynged Dan druan. Tair mis yn ddiweddarach mae Grug a gweddill staff a disgyblion Ysgol Bro Taf yn ceisio dygymod â marwolaeth Dan wrth i’r tymor ail-ddechrau.
Does dim llawer o olwg galaru ar Grug wrth iddi ymdrechu i gario ‘mlaen hefo bywyd dydd i ddydd yn yr ysgol ac mae Rhian Blythe yn ardderchog yn chwarae’r athrawes drefnus a galluog, sydd yn gallu ymddangos yn oeraidd ar adegau.
Yn ogystal â cholled Dan, mae Grug hefyd angen delio hefo’r ferch ifanc amheus sydd yno i’w chysgodi, ond yna fe ddown i ddeall ei bod yna i geisio cael stori am berthynas Dan a Grug – twist diddorol ac annisgwyl oedd yn sicrhau fod y gwyliwr yn cyd-deimlo â Grug drwy gydol y bennod.
Newydd wedd Wyn
Mae drama sefyllfa Grug yn cael ei gyferbynnu’n effeithiol hefo’r hiwmor mae’r athro Cymraeg truenus Mr Wyn Rowlands yn ei gyfrannu i’r sioe.
Yn dilyn ei drawiad yn y gyfres ddiwethaf, mae gan Wyn agwedd newydd tuag at fywyd wrth i ni ei weld yn ceisio llunio ‘bucketlist’ o’r holl bethau mae eisiau gwneud cyn marw, gan gynnwys ‘dysgu jyglo’… wel, pawb a’i fryd!
Er mwyn sicrhau ei fod yn cadw at ei ddiet iachus, mae mam Wyn yn dod i aros ato. Gan baratoi pecynnau bwyd a ffrwythau i’w mab, mae Meryl hefyd yn cael fflyrt fach slei hefo’r prifathro ac yn gorfodi Wyn i ganu deuawd gyda hi sydd ychydig yn ‘cringe-worthy’ ar adegau ond yn ddoniol gwaetha’r modd.
Helynt Louise
Naratif arall sy’n cario ‘mlaen o’r gyfres ddiwethaf yw salwch Louise. Mae Gwen a hithau’n cael eu dal mewn gwe beryglus o glwydda wrth i’r athrawon eraill ofyn yn bryderus am ei hiechyd yn dilyn y ‘lymffoma’.
Mae pethau’n troi’n gas rhyngddynt yn sydyn iawn ac mae’r tensiwn yn adeiladu drwy gydol y bennod drwy gyfres o lygadrythiadau dirdynol sydd ychydig yn ormodol, yn lletchwith ac yn ddiangen ar adegau yn fy marn i.
Trafferthion Bryn ac Aled
Mae trafferthion diweddaraf Brynmor yn deillio o’r dechnoleg ddiweddaraf sydd wedi goresgyn ei ddosbarth Mathemateg, a dwi’n siŵr ei bod hi’n olygfa gyfarwydd iawn i weld rhywun yn gaeth i’w ffyrdd yn ei chael hi’n anodd cadw i fyny hefo’r ‘trend’ diweddaraf.
Credaf mai dyma un o gryfderau’r gyfres – hawdd yw cydymdeimlo â’r holl gymeriadau wrth iddynt geisio cael cydbwysedd rhwng Gwaith a Chartref, fel mae’r teitl yn awgrymu!
Roedd pethau’n edrych i fyny i Aled wedi iddo gyhoeddi ei berthynas â Siân ond mae’n amlwg fod rhywbeth yn ei boeni wrth iddo orfod cael gair â disgybl am drais yn y cartref.
Cawn gipolwg i mewn i’w berthynas â’i rieni ar ddechrau’r gyfres hon ac fe ddaw’n amlwg fod yna lawer mwy yma na ddaeth i’r golwg. Mae’n debygol fod y stori hon am ddatblygu dros yr wythnosau nesaf wrth i ni ddysgu mwy am gefndir Aled a hanes ei deulu.
Fel rhywun a fethodd y rhan fwyaf o’r cyfresi cyntaf, hawdd i mi yw gweld pam fod y gyfres ddrama Gymraeg hon yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd – byddaf yn sicr o wylio’r penodau nesaf gyda diddordeb brwd!
Marc: 8/10
Gallwch ddilyn Caryl ar Twitter ar @welshcaryl.