Fe fu’n rhaid torri ar draws perfformiad yn un o theatrau Llundain, pan gwympodd rhan o’r set am ben y gynulleidfa.
Fe gafodd pedwar o bobol eu hanafu yn y digwyddiad yn ystod llwyfaniad o ‘Fuerzabruta’ yn y Roundhouse yn Camden, gogledd Llundain, neithiwr.
Mewn datganiad, mae’r theatr wedi cadarnhau fod y set wedi cwympo tua hanner awr wedi i’r sioe ddechrau.
“Roedd dau artist yn perfformio ar y darn symudol hwnnw o’r set pan fu nam technegol,” meddai’r datganiad, “ac fe gwympodd i lawr i ardal lle’r oedd rhan o’r gynulleidfa’n sefyll.
“Wedi ei brynu i mewn oedd yr offer, a dydi o ddim yn rhan o strwythur y Roundhouse.
“Fe gafodd y sioe ei stopio, ac fe gafodd y gofod perfformio ei glirio’n syth bin,” meddai’r datganiad wedyn.
Sioe theatrig lle mae’r chwarae yn digwydd yn yr awyr ydi ‘Fuerzabruta’, ac mae wedi bod yn rhedeg yn y Roundhouse ers diwedd Rhagfyr.