12 Years a Slave
Mae’r ffilm 12 Years a Slave wedi cael ei henwebu am 9 Oscar gan gynnwys yr actor gorau, y cyfarwyddwr gorau a’r ffilm orau.

Fe enillodd y ffilm y brif wobr yn seremoni’r Golden Globes yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r actorion yn y ffilm Chiwetel Ejiofor a Michael Fassbender wedi ennill enwebiadau am yr actor gorau a’r actor cynorthwyol gorau.

Mae’r ffilmiau Gravity ac American Hustle wedi cael 10 enwebiad yr un.

Ymhlith yr actorion eraill sydd wedi eu henwebu am yr actor gorau mae Christian Bale (American Hustle); Matthew McConaughey (Dallas Buyers Club); a Leonardo DiCaprio (The Wolf Of Wall Street)

Mae Judi Dench ymhlith y rhai sydd wedi cael enwebiad am yr actores orau am ei rol yn Philomena; ynghyd a Cate Blanchett am Blue Jasmine; Amy Adams am American Hustle; Sandra Bullock yn Gravity a Meryl Streep am August: Osage County.

Fe fydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Los Angeles ar 2 Mawrth.