Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Dave R Edwards, prif leisydd y band Datblygu, sydd wedi marw yn 56 oed.

Mewn datganiad, dywedodd label recordiau Ankst ei fod wedi marw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos. Roedd wedi bod yn dioddef yn ddiweddar gyda phroblemau iechyd gan gynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr.

Bydd ‘Dave Datblygu’ yn cael ei gofio fel arloeswr oedd yn barod i herio a phrocio hwyl at ddiwylliant Cymru ac mae ei ddylanwad yn amlwg ymhlith degau o fandiau Cymreig.

Mae’r triawd o albymau, Wyau (1988), Pyst (1990) a Libertino (1993) yn cael eu hystyried ymysg y gorau, a’r pwysicaf yn hanes cerddoriaeth Gymreig.

A dim ond y llynedd y rhyddhaodd Datblygu eu halbym ddiweddaraf, Cwm Gwagle, sydd wedi cyrraedd rhestr fer ‘Albym Gymraeg y Flwyddyn’.

Daeth hyn wedi i Datblygu ddychwelyd yn 2015 gyda’r albym Porwr Trallod, wnaeth gyrraedd rhestr fer y Welsh Music Prize.

Mae effaith ddiwylliannol ac artistig Datblygu eisoes yn sicr, ac mae ei farwolaeth yn golled enfawr i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru.

“Arth o ddyn”

Cafodd y grŵp ei ffurfio yn 1982 gan David R Edwards a T Wyn Davies, gyda Pat Morgan yn ymuno ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Pat Morgan oedd un o’r cyntaf i dalu teyrnged iddo, gan ddweud: “Nid yw David gyda ni mwyach. Roedd yn un o’r ffrindiau gorau y gallech ei gael erioed. Personoliaeth enfawr, hael, arth o ddyn; bydd ei ddylanwad yn byw ymlaen.”

Bydd Tim Burgess, o’r band ‘Charlatans’, yn cynnal parti gwrando i’r albym 1985-1995 – sef casgliad o ganeuon gorau Datblygu ar hyd y ddegawd honno – i gofio am Dave R Edwards.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud ei fod wedi chwarae “rhan allweddol yn sefydlu y diwylliant rydym yn ei nabod a’i fwynhau heddiw”.

“Cymeriad hoffus”

Ond mae’n amlwg nad dim ond fel arloeswr ac athrylith o gerddor y bydd Dave R Edwards yn cael ei gofio.

Bydd y band ‘Ail Symudiad’ yn ei gofio fel “cymeriad hoffus ac annwyl iawn”.

A bydd David Wrench, a ail-gymysgodd yr anfarwol Maes E yn cofio ‘Dave’ yn disgyn dros ei babell yn yr Eisteddfod.

“Dim geiriau”

Doedd gan Dylan Ebenezer “ddim geiriau”, meddai.

  • Gallwch ddarllen cyfweliad Datblygu gyda Golwg, ar adeg rhyddhau’r albym ‘Cwm Gwagle’ y llynedd, heb wal dalu, isod.

Datblygu yn dal i gael sbort

Barry Thomas

Mae’r ddeuawd yn ôl gydag albwm newydd sy’n llawn geiriau doniol a chrafog, a cherddoriaeth amrywiol ac arbrofol

“Nath e ddod â drych i ddiwylliant Cymreig…”

Huw Bebb

Teyrngedau i David R Edwards, ‘Dave Datblygu’, sydd wedi marw’n 56 oed