Asia Rybelska sy’n adolygu cyfrol newydd Gareth Ffowc Roberts, ‘Mae Pawb yn Cyfri’…
Beth ddaw i’ch meddwl wrth ystyried llyfr sy’n ymwneud â mathemateg?
Dim ond rhesi o rifau, rheolau dirgel ac annealladwy? Yn aml iawn, dyw mathemateg ddim ar frig hoff bynciau pobol, ond, gan fy mod i’n hoff o fathemateg tra yn yr ysgol, penderfynais ddarllen y gyfrol newydd yma gan Gareth Ffowc Roberts.
Ro’n i’n chwilfrydig, yn enwedig ar ôl imi ddysgu mai llyfr ar gyfer pobl sy’n hoffi a chasáu mathemateg ydy hwn, a’r hyn a wneir gan yr awdur ydy cyflwyno pynciau ‘mathemategol’, ond mewn ffordd sy’n apelio at leygwyr hefyd.
Un o brif gryfderau’r llyfr ydy’r ffaith fod yr awdur yn storïwr o’i eni, ac mae’n gallu adrodd ei straeon mewn modd cyffrous a diddorol. Mae’r gyfrol yn cynnwys elfennau o fywgraffiadau mathemategwyr enwocaf Cymru, ond mae hefyd yn cyflwyno hanesion pobol hollol gyffredin, a’u profiadau gyda mathemateg.
Mae pob dim wedi’i ysgrifennu mewn dull ysgafn, ac mae’n llawn o sylwadau doeth a ffraeth ar yr un pryd.
Mathemateg dros y canrifoedd
Mae’r llyfr yn dechrau gyda chymhariaeth rhwng profiadau plant ysgol o gychwyn y 20fed ganrif (yn dilyn cofiannau Kate Roberts) a diwedd y ganrif honno, er mwyn dangos beth sydd wedi newid ers bryd hynny.
Amser maith yn ôl, roedd plant Cymraeg yn gorfod archwilio problemau mathemateg drwy gyfrwng Saesneg, iaith estron iddynt, ac roedd hen fformiwlâu mor annealladwy iddynt hwy ag i’w hathrawon.
Ond ar ôl gwaith caled a wnaethpwyd gan genedlaethau o fathemategwyr (ac ymgyrchwyr dros yr iaith), gall plant Cymru’n dysgu yn eu hiaith eu hunain, mewn awyrgylch ysgafnach, ac mae’r fformiwlâu wedi newid, felly rŵan, chwedl Gareth Ffowc Roberts, mae’n haws i ‘ddeall pam’ yn hytrach na dim ond ‘dysgu sut’.
Caiff stori’r ymdrechion hyn ei hadrodd hefyd. Ac felly, caiff darllenwyr eu synnu gan fywydau mathemategwyr (o’r ddau ryw!) fel Mary Wynne Warner, Robert Recorde (dyfeisiwr arwydd ‘=’) a William Jones (a ddefnyddiodd π am y tro cyntaf yn ei waith). Gellir eu hadnabod o bob ochr braidd, yn dysgu am eu gyrfaoedd a phrif weithiau mathemategol, yn ogystal â ffeithiau annisgwyl o’u bywydau.
Cymru a’r byd
Hefyd, mae’r awdur yn sôn am gysylltiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill. Mae’r un â’r Ariannin yn eithaf amlwg, ond pwy a dybiai y byddai rhywbeth yn gyffredin rhwng y Cymry a’r Maiaid? Mae’n amlwg fod mathemateg yn cysylltu pobl o bob ongl y byd!
Peth arall ydy dangos sut oedd rhifau eu hunain yn newid yng Nghymru dros y canrifoedd a pha drafferth cafodd pobol i symleiddio’r hen batrymau. Mae’n ymddangos i’r Cymry fod yn ystyfnig; roedd anodd iawn gwneud iddynt droi i’r patrwm degol (“dieithr i’r iaith”), ac mae’r dull traddodiadol yn dal i barhau.
Hefyd, mae’r awdur yn profi pa mor hollbresennol ydy mathemateg ym mywydau pobol gyffredin, er enghraifft mewn iaith. Mae’r Gymraeg yn llawn o fathemateg sy’n cael ei defnyddio gan feirdd wrth gyfansoddi eu cerddi. Felly, gellir dweud bod beirdd Cymreig yn fath o grefftwyr sydd wedi plygu mathemateg i’w pwrpas eu hunain!
D.I.Y.
Wrth ddarllen, roeddwn wrth fy modd yn datrys problemau mathemategol a gyflwynwyd gan yr awdur. Mae yna bosau ar ôl pob pennod, ac mae pob un yn herio darllenwyr i feddwl am bynciau a gyflwynwyd ynddi. Mae yna gerddi a gyfansoddwyd mewn dull cellweiriol, ond hefyd cwestiynau uniongyrchol. Weithiau roedd rhaid imi ddefnyddio fy holl ddawn fathemategol i ddatrys rhyw broblem neu’i gilydd, ac weithiau nid oedd hynny’n ddigon, ond ces i lwyth o hwyl, a chredaf y gallai pob darllenwr brofi hynny.
Llyfr sy’n ysbrydoli ydy cyfrol newydd Gareth Ffowc Roberts. Dywedwn, hyd yn oed, ei bod yn agoriad llygad. Ar ôl ei darllen gellir sylweddoli nad “hud du” ydy mathemateg o gwbl, ond, yn hytrach, cyfrinach fawr sy’n gallu cael ei datrys gan bawb. Felly, mentrwch!
Mae Asia Rybelska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl sy’n treulio’r haf ar leoliad gyda chwmni Golwg.
Mae gan Asia hefyd flog ei hun lle mae’n trafod ei meddyliau trwy gyfrwng y Gymraeg.