Nid yw’r BBC wedi gwneud digon ynglŷn â chael mwy o gyflwynwyr benywaidd ac fe ddylai “frwydro” i atal rhai o dalent y gorfforaeth rhag symud i gwmnïau darlledu eraill, meddai’r cyfarwyddwr cyffredinol newydd George Entwistle.
Dywedodd pennaeth newydd y gorfforaeth, sy’n olynu Mark Thompson, y bydd y BBC yn edrych mewn i’r posibilrwydd o ddangos mwy o raglenni chwaraeon i ferched.
Dywedodd George Entwistle, 50, wrth y Radio Times eu bod wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth geisio cael mwy o ferched sy’n arbenigwyr yn eu maes i gyflwyno rhaglenni ffeithiol ond bod angen gwneud mwy.
Ychwanegodd cyn-olygydd Newsnight y dylai’r BBC wneud fwy o ymdrech i gadw rhai o’i sêr ond nid drwy gynnig rhagor o arian, meddai.
Daw ei sylwadau ar ôl i’r actores Ruth Jones, y comedïwr Steve Coogan a Syr David Attenborough wneud rhaglenni ar gyfer Sky yn ddiweddar.
Dywedodd mai un o gryfderau’r BBC oedd dod o hyd i dalent newydd ac y dylai barhau i chwilio am y genhedlaeth nesaf.
Ei hoff raglenni meddai, yw The Wire, Mad Men, The Hour, Parade’s End, The Killing a Borgen yn ogystal â ffefrynnau fel Today, The Archers, The Great British Bake Off, Radio 3, The Thick Of It a Mrs Brown’s Boys.