Union flwyddyn wedi trychineb a laddodd pedwar o lowyr yng Nghilybebyll ger Pontardawe, mae eu teuluoedd wedi siarad â rhaglen Week In Week Out BBC Cymru.
Maen nhw wedi bod yn sôn wrth y rhaglen am eu galar a’r cwestiynau nad oes modd eu hateb eto.
Mae’r rhaglen yn adrodd hanes y trychineb drwy lygaid y teuluoedd, sy’n sôn am eu teimladau wrth aros i glywed a oedd modd achub y pedwar.
Cafodd Garry Jenkins, David Powell, Phillip Hill a Charles Breslin eu caethiwo dan ddaear pan lifodd dŵr i mewn i’r pwll yng Nghwm Tawe.
Hayley Phillips Llun: BBC Cymru
‘Cwestiynau heb eu hateb’
Dywedodd Hayley Phillips, nith Phillip Hill: “Rhywbryd yn ystod eich bywyd, rydych chi’n mynd i orfod dod i delerau â hynny ac am wn i, mae briwiau’n gwella ond maen nhw’n gadael creithiau ofnadwy. Ond rhaid i chi geisio cael eich pen o amgylch y peth.
“Ar hyn o bryd, mae yna gymaint o gwestiynau heb eu hateb ynghylch sut y gallai hyn fod wedi digwydd a difetha pedwar o fywydau a phedwar o deuluoedd.”
Wythnosau yn unig wedi damwain debyg yn Chile, roedd y teuluoedd wedi gobeithio y byddai’r glowyr wedi dod allan yn fyw.
Cafodd rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield ei anafu yn ystod y ddamwain a llwyddodd mab David Powell i ddod allan o’r pwll a dod o hyd i gymorth.
Arhosodd y teuluoedd yng Nghanolfan Gymunedol Rhos i aros i glywed am yr ymdrechion i achub y pedwar.
Lynette Powell Llun: BBC Cymru
‘Colli cymar’
Roedd gwraig Charles Breslin, 62, yn argyhoeddedig y byddai’r achubwyr yn dod o hyd iddo’n fyw.
Dywedodd Mavis Breslin: “Yn y car ar y ffordd i lawr, y cyfan wnes i oedd gweddïo. Ro’n i’n meddwl, does gen i ddim ots os yw e wedi parlysu, dim ond ’mod i’n gallu ei gael e gartref. Ond na.”
Dywedodd gwraig David Powell, Lynette na fydd hi byth yn gallu dygymod â cholli ei gŵr.
“Rwy wedi colli fy nghymar – am byth. A dydw i ddim yn gwybod sut i ymdopi. Rwy’n gwybod ei bod hi’n flwyddyn ac y dylwn i fod yn ymdopi ond mae’n mynd yn waeth. Rwy’n gwybod eu bod nhw wedi dweud y dylwn i fod yn gwella ond mae’n gwaethygu, nid gwella.”
Dywedodd Alex Jenkins, mab Garry: “Gofynnais i i’r ymgymerwr a allwn i gerdded gyda’r arch i’r bedd, gan fod Dad yno pan ddes i i’r byd, felly ro’n i am fod yno wrtho iddo adael.”
Mae’r pwll wedi ei gau erbyn hyn ac mae’r rheolwr, Malcolm Fyfield wedi cael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod.
Mae’r gronfa goffa wedi codi dros £1 miliwn o bunnoedd i’r teuluoedd.
Fe fydd Week In Week Out yn cael ei darlledu am 8.30yh heno.