Mae Côr CF1 wedi lansio cystadleuaeth gyfansoddi newydd sbon er mwyn rhoi hwb i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru – ac i roi darn newydd iddyn nhw ganolbwyntio arno pan fyddan nhw’n gallu dod ynghyd eto ar ôl y coronafeirws.
Maen nhw’n cynnig gwobr o £600, ar y cyd â chwmni cyhoeddi Curiad, yn ogystal â pherfformiad o’r gwaith buddugol a chyfle i’w gyhoeddi.
Y beirniaid yw’r cyfansoddwr yr Athro Paul Mealor, a thîm cerddorol y côr, sef Eilir Owen Griffiths, Richard Vaughan a Rhiannon Pritchard.
Mae gan ymgeiswyr tan Hydref 1 i gyflwyno’u darnau.
‘Eisiau darn heriol’
“Rydym ni fel côr yn eiddgar i ganu ar y cyd eto,” meddai Eilir Owen Griffiths, arweinydd Côr CF1.
“I’n croesawu yn ôl i’r ystafell ymarfer, rydym ni eisiau darn heriol a fyddai’r un mor addas mewn neuadd gyngerdd a fyddai ar lwyfan cystadleuaeth.
“Mae’r côr mor ddiolchgar am yr holl gyfleoedd a phrofiadau rydym wedi mwynhau dros y blynyddoedd oherwydd diwydiant creadigol Cymru.
“Y gystadleuaeth hon yw ein ffordd ni o roi rhywbeth bychan yn ôl yn ystod amser caled i nifer.
“Dim ots am eich profiad na’ch statws fel cyfansoddwr – gan ein bod yn beirniadu pob gwaith dan ffugenw, yr hyn fyddwn yn astudio yw safon eich gwaith.
“Felly cerwch amdani!”
‘Calondid’
“Mae Curiad yn hynod falch i gefnogi Côr CF1 a chael bod yn rhan o’r gystadleuaeth cyfansoddi cân newydd i’r côr,” meddai Ruth Myfanwy o gwmni Curiad.
“Yn yr amser anodd yma i gyfansoddwyr a cherddorion, mae’n galondid gweld Côr CF1 yn meddwl am syniadau newydd ac yn agor y drws i ysbrydoli ein cyfansoddwyr i fod yn greadigol ac hefyd i gefnogi’r diwylliant cerddorol yng Nghymru mewn ffordd ymarferol.
“Gobeithiwn bydd y wobr ariannol, a’r fraint o gael côr o safon mor uchel â Chôr CF1 yn perfformio’r gwaith, yn dennu nifer fawr i gystadlu a chreu gwaith newydd.”
‘Anrhydedd’
“Rwy’n falch cael y cyfle i feirniadu’r wobr newydd, pwysig hwn ar gyfer cyfansoddwyr, yn enwedig ar adeg pan mae sawl mudiad celfyddydol yn torri eu darpariaeth,” meddai’r Athro Paul Mealor.
“Mae’n anrhydedd cael helpu’r genhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr Cymreig ddarganfod eu llais a chael clywed eu gwaith yn cael ei berfformio.”