Kayleigh Jones
Kayleigh Jones sy’n rhannu’r profiad o werthfawrogi barddoniaeth fel dysgwraig …
Mae cerdd yn cael ei chreu pan fo emosiynau’n ffeindio’u geiriau. Mae’n anhygoel i mi sut mae un gair yn gallu dylanwadu, ysbrydoli, a chodi emosiynau pobl.
Ac wrth ei darllen, mae pob person yn gallu gweld rhywbeth gwahanol i’r lleill. Rwy’n cofio’r gerdd Gymraeg gyntaf imi ddarllen – “Glas”, gan Bryan Martin Davies.
Cystadlodd grŵp ohonon ni o’r ysgol mewn cystadleuaeth lefaru yn Eisteddfod yr Urdd, a honno oedd y gerdd i ni adrodd.
Efallai, bryd hynny, nid oeddwn i’n gwerthfawrogi barddoniaeth cymaint ag yr wyf nawr. Ond roedd cystadlu yn yr Eisteddfod yn brofiad da, ac yn hwyl. Fe roddodd ddarlun ffafriol o farddoniaeth imi.
Ailymweld â’r cerddi
Wrth astudio Cymraeg (ail iaith) Safon Uwch, cyflwynwyd amrywiaeth o gerddi i ni, o dan amrywiaeth o themâu gwahanol.
Cawsom ein hannog i edrych rhwng llinellau’r cerddi a dod i’n penderfyniadau’n hunain am y themâu, y pwrpas ac ati.
Yn ffodus, “Glas” oedd un o’r cerddi ar y maes llafur, ac fe gefais y cyfle i edrych ar y gerdd yn fwy manwl, a dod i ddeall bwriad y bardd a neges y gerdd yn well.
Ond roedd fy ffrind yn eistedd wrth fy ochr, a byddai wastad yn croesawu cerdd gydag ochenaid enfawr.
Pam felly? Er gwaethaf brwdfrydedd ein hathrawes, a’m brwdfrydedd i, doedd dim byd yn mynd i newid ei hagwedd tuag at y gelf. Roeddwn i’n teimlo ar fy mhen fy hunan, fel rhyw fath o geek.
Gwerthfawrogi
Fy mwriad ar gyfer y blog hwn oedd trafod agweddau negyddol pobl ifanc a dysgwyr tuag at farddoniaeth.
Ond, wrth holi rhai o’m ffrindiau sy’n astudio Cymraeg neu sydd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith, cefais fy synnu.
Oedd, roedd ymatebion negyddol, ond ar y cyfan, roedden nhw’n eithaf cadarnhaol – ac roedd y rhan fwyaf yn dweud eu bod yn hoff o farddoniaeth!
Y prif bwynt negyddol a godwyd oedd anhawster yr iaith sy’n cael ei defnyddio. Ac fel dysgwraig, rwy’n gallu uniaethu â hyn yn llwyr. Mae’n anodd gwerthfawrogi rhywbeth na allwch ddeall yn iawn.
Dywedodd Shauna Dummett: “Ro’’n i’n hoffi’r cerddi mwy cyfoes achos eu bod nhw’n llawer haws i ddeall, sef y rhai a ysgrifennwyd yn yr 80au neu’r 90au ymlaen. Do’n i ddim yn hoff iawn o’r cerddi hŷn a’r rhai mwy traddodiadol achos eu bod nhw’n anodd i ni ddeall a dehongli.”
Ac mae’n gwneud synnwyr, on’d yw e? Fyddai neb yn disgwyl i Sais ddarllen barddoniaeth Ffrangeg a’i hoffi.
Felly, sut gall dysgwr werthfawrogi cerddi sydd wedi’u hysgrifennu mewn iaith anghyfarwydd? Ond, er gwaethaf hyn, roedd bron pawb yn cytuno bod barddoniaeth yn rhywbeth da, ac yn bwysig mewn bywyd.
Ystyr personol
Roedd dau ateb yn sefyll mas i mi oherwydd fy mod yn cytuno’n llwyr gyda nhw. Dywedodd dwy fyfyrwraig Gymraeg Ail Iaith ym Mhrifysgol Abertawe:
“Rwy’n hoffi barddoniaeth yn gyffredinol oherwydd y gall fod beth bynnag yr ydych eisiau. Gall gael ystyr gwahanol i bob person sy’n ei darllen ac rwy’n dwli ar y ffaith bod gan bob gair bwrpas a rheswm i’w ddefnydd.
“Rwy’n dwli ar farddoniaeth Gymraeg yn enwedig oherwydd ei bod yn rhan o’n diwylliant fel ‘gwlad y gân.’ Rwy’n teimlo taw’r un peth i gyd yw cerddoriaeth, barddoniaeth a llyfrau, maent yn greadigol a gallwch weld unrhyw beth yr ydych eisiau ynddynt.” – Abbie Moore
“‘Rwy’n dwli ar farddoniaeth Gymraeg”- geiriau na allwn i ddychmygu dweud cyn dechrau yn y brifysgol. Mae’n rhaid imi ddiolch i’n darlithydd am ddangos imi ddyfnder barddoniaeth. Cefais fy synnu’n fuan at gymaint o ddeallusrwydd mae beirdd yn rhoi ar ddarn o bapur.
“Mae’r technegau a ddefnyddir fel cynghanedd yn gwneud ichi garu a gwerthfawrogi’r iaith Gymraeg cymaint yn fwy na roeddech chi’n meddwl y gallech.” – Rachel Moses
Felly, mae’n dda gennyf weld bod pobl fy oedran i ac iau, yn arbennig dysgwyr, yn rhannu fy hoffter o farddoniaeth.
Mae Cymru yn adnabyddus am ei cherddi a’i cherddoriaeth, ac mae barddoniaeth, fel Cymry, yn ein gwaed (ystrydeb, rwy’n gwybod … ond mae’n wir!).
Ni, fel pobl ifanc, yw’r dyfodol. Felly, os yw pobl ifanc nawr yn gwerthfawrogi barddoniaeth, byddant yn trosglwyddo’u gwybodaeth a’u gwerthfawrogiad i’w brodyr a’u chwiorydd, eu ffrindiau a’u plant.
Bydd pobl yn y dyfodol yn parchu’n celfyddydau, ein hanes, a’n hiaith. Mae yna obaith.