Jeremy Clarkson
Mae disgwyl i’r BBC benderfynu ar ddyfodol Jeremy Clarkson yr wythnos hon wrth i bedwar sioe byw Top Gear yn Norwy gael eu gohirio.

Roedd Jeremy Clarkson, yn ogystal â’i gyd- gyflwynwyr James May a Richard Hammond, i fod i gymryd rhan yn y sioeau yn Stavanger yr wythnos hon.

Ond mae’r sioeau wedi eu gohirio tra bod y cyflwynydd yn parhau wedi ei wahardd dros dro, ar ôl honiadau ei fod wedi taro cynhyrchydd Top Gear, Oisin Tymon, yn ystod ffrae dros bryd o fwyd poeth mewn gwesty.

Mae Jeremy Clarkson ac Oisin Tymon wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad mewnol y BBC, o dan arweiniad Ken MacQuarrie, i’r hyn ddigwyddodd ac mae disgwyl penderfyniad ar ddyfodol y cyflwynydd gyda’r gorfforaeth yr wythnos hon.

Mae Jeremy Clarkson wedi disgrifio’r wythnos ddiwethaf fel un “cythryblus” ac mae hefyd wedi honni mai cellwair oedd o pan feirniadodd o benaethiaid y BBC ar y llwyfan mewn digwyddiad elusennol.

Mae ymchwiliad mewnol y gorfforaeth i ymddygiad Jeremy Clarkson yn cael ei drosglwyddo i’r cyfarwyddwr cyffredinol, ac mae’n bosib y bydd yn cael ei ddatrys mor gynnar ag yfory.