Heulen Cynfal, Parc, y Bala, yn derbyn cwpan Mary Thomas Bronsaint fel enillydd yr Her Unawd gan Gregory Vearey-Roberts, un o'r Arweinyddion
Cafwyd cystadlu brwd a safonol mewn awyrgylch hwyliog a chartrefol yn Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch nos Wener 24 a nos Sadwrn 25 Ebrill.

Roedd y gefnogaeth arferol yno o Ysgol Penrhyn-coch ar y nos Wener – er fod nifer o’r plant i ffwrdd ar weithgaredd penwythnos.

Gwelwyd hefyd nifer o blant sydd yn byw yn y pentref ac yn mynychu ysgolion eraill yn cystadlu.

Daeth nifer dda ar y pnawn Sadwrn i gystadlu yn yr adrannau oed cynradd, a’r beirniaid yn canmol y safon. Roedd presenoldeb tri chôr yng nghyfarfod yr hwyr yn sicrhau cynulleidfa niferus er iddi deneuo yn hwyrach y noson.

Y beirniaid eleni oedd: Nos Wener (Lleol): Cerdd – Sion Eilir, Pwll-glas, Rhuthun. Llefaru: Heledd Llwyd, Talgarreg. Dydd Sadwrn (Agored): Cerdd – Sioned Webb, Llanfaglan;  Llefaru a Llên: Elin Williams, Cwm-ann. Cyfeiliwyd gan Heddwen Pugh-Evans nos Wener a Lowri Guy dydd Sadwrn.

Yr Arweinyddion oedd Emyr Pugh-Evans, Gregory Vearey-Roberts a Manon Reynolds.

Swyddogion newydd y pwyllgor eleni oedd: Cadeirydd: Marianne Jones-Powell; Ysgrifennydd: Ceris Gruffudd; Is-ysgrifennydd: Llio Adams; Trysoryddion: Robert Dobson a Bethan Davies.

Canlyniadau

Nos Wener (Lleol)

Unawd Meithrin 1) Gruffudd ap Llywelyn 2) Cayden Holmes 3) Tilly Bennett

Llefaru Meithrin 1) Cayden Holmes 2)Gruffudd ap Llywelyn 3) Tilly Bennett

Unawd Dosbarth Derbyn 1) Osian Tudur Mills 2) Lleucu ap Gruffudd 3) Iestyn Bryn Roberts

Llefaru Dosbarth Derbyn 1) Hannah Willis 2) Osian Tudur Mills 3) Cari Jenkins

Unawd Blwyddyn 1 1) Mari Gibson 2) Molly Robinson 3) Lucy Robson

Llefaru  Blwyddyn 1-2 1) Molly Robinson 2) Mari Gibson 3) Annie May James

Unawd Blwyddyn 3-4 1) Betsan Fychan Downes 2) Osian Petts 3) Gwion Wilson

Llefaru Blwyddyn 3-4 1) Nana Tagoe 2) Betsan Fychan Downes 3) Osian Petts

Unawd Blwyddyn 5-6 1) Arwen Exley 2) Elisa Martin 3) Sion James

Llefaru Blwyddyn 5-6 1) Sion James 2) Gronw Fychan Dawnes 3) Damaris Kotei-Martin 4) Bethan Owen-Doram

Unawd offeryn cerdd (cynradd) 1) Gronw Fychan Downes 2) Betsan Fychan Downes 3) Elisa Martin

Unawd Ysgol Uwchradd 1) Sion Hurford

Unawd offeryn cerdd – Ysgol Uwchradd NEB YN CYSTADLU

Llefaru Ysgol Uwchradd NEB YN CYSTADLU

Parti Canu 1) Parti 1 2) Cylch Meithrin 3) Parti Dosbarthiadau 3 4 5 a 6

Parti Llefaru NEB YN CYSTADLU

Prynhawn Sadwrn

Unawd Dosbarth Derbyn ac Iau

​1. Ela Mabli Griffiths Jones, Aberaeron

​2. Morgan Jac Lewis, Aberystwyth

​3. Osian Mills, Penrhyn-coch; Gwen Gibson, Penrhyn-coch; Mari Williams, Tregaron

Llefaru Dosbarth Derbyn ac Iau

​1. Ela Mabli Griffiths Jones, Aberaeron

​2. Mari Non Williams, Tregaron

​3. Morgan Jac Lewis, Aberystwyth; Osian Tudur Mills’ Penrhyn-coch; Gwen Gibson, Penrhyn-coch

Unawd Blwyddyn 1 a 2

​1. Elin Williams, Tregaron

​2. Nansi Fychan, Machynlleth

​3. Elan Mabbutt, Aberystwyth ac Ifan Williams, Tregaron

Llefaru Blwyddyn 1 a 2

​1. Elin Williams, Tregaron

​2. Ifan Williams, Tregaron

​3. Elan Mabbutt, Aberystwyth

Unawd Blwyddyn 3 a 4

​1. Ioan Mabbutt, Aberystwyth

​2. Betsan Fychan Downes, Penrhyn-coch

Llefaru Blwyddyn 3 a 4

​1. Ioan Mabbutt, Aberystwyth

​2.Betha Fychan Downes, Penrhyn-coch

​3. Gethin Jones Davies, Llanfihangel-y-Creuddyn

Unawd Blwyddyn 5 a 6

​1. Cadi Williams, Rhydyfelin

​2. Glesni Haf Morris, Llanddeiniol

​3. Mari Fflur Fychan, Abercegir, ger Machynlleth

Llefaru Blwyddyn 5 a 6

​1.  Mari Fflur Fychan, Abercegir, ger Machynlleth

​2. Glesni Haf Morris, Llanddeiniol

​3. Elen  Madryn, Llandre

Unawd Ysgol Uwchradd

​1. Guto Lewis, Llan-non

​2. Beca Williams, Rhydyfelin

Llefaru Ysgol Uwchradd

​1. Non Owen, Botwnnog

Unawd Cerdd dant dan 18oed

​1. Anest Eurig, Aberystwyth

​2. Beca Williams, Rhydyfelin

Unawd Alaw Werin dan 18 oed (digyfeiliant)

​1. Beca Williams, Rhydyfelin

​2. Anest Eurig, Aberystwyth

3. Elin Rees, Rhydyfelin

Unawd Offeryn Cerdd dan 18 oed

​1. Gronw Fychan Downes, Penrhyn-coch

​2. Mali Gerallt, Llan-non

Nos Sadwrn

Unawd 18 – 30

​1. Heulen Cynfal, Parc

​2. Sion Eilir, Pwll-glas, Rhuthun

3 Heledd Eleri, Cwm-ffrwd

Llefaru 18 – 30

​1. Heulen Cynfal, Parc

​2. Heledd Bessent, Pennal

​3. Meleri Morgan, Bwlch-llan

Unawd Sioe Gerdd dan 30 oed

​1. Martin S. Jones, Cefniwrch, Llangefni

​2.Sion Eilir, Pwll-glas, Rhuthun

​3. Heulen Cynfal, Parc

Canu Emyn dros 60 oed

​1. Gwyn Jones, Llanafan

​2.Elen Davies Llanfair Caereinion

​3. Aled Jones, Comins-coch, Machynlleth

​4. Hywel Annwyl, Llanbryn-mair

Cystadleuaeth Ymgom 2015 Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

​1. Sion Hurford ac Annest Eurig, Penweddig

Côr: Unrhyw Leisiau

​1. Côr ABC

​2. Côr Pantycelyn a Côr Penrhyn-coch

Alaw Werin (Agored) Digyfeiliant

​1. Heledd Besent, Pennal​

Llefaru darn allan o’r Ysgrythur

​NEB YN CYSTADLU

Sgen Ti Dalent?

​1. Heulen Cynfal, Parc

​2. Martin S.  Jones, Cefniwrch, Llangefni

Unrhyw Unawd Gymraeg

​1. Heulen Cynfal, Parc

​2. Efan Williams, Lledrod

​3. Gwenan jones, Llambed

Parti Llefaru

​NEB YN CYSTADLU

Her Adroddiad (Agored)

​1. Heledd Besent, Pennal

​2. Heulen Cynfal, Parc

Her Unawd

​1. Heulen Cynfal, Parc

​2. Heledd Eleri, Cwm-ffrwd

​3. Sion Eilir, Pwll-glas, Rhuthun

​4. Gwennan Jones, Llambed

Cystadlaethau Cyfansoddi

Cystadleuaeth y Gadair: Anwen Pierce, Bow Street

Telyneg: John Meurig Edwards, Aberhonddu

Englyn: Y Parchg Kenneth M. Lintern, Clydach

Stori fer: John Meurig Edwards, Aberhonddu

Brawddeg: Mary B Morgan, Llanrhystud

Soned: John Meurig Edwards, Aberhonddu

Erthygl papur bro: 1) Dilwyn Pritchard, Rachub 2) Megan Richards, Aberaeron

Adolygiad: John Meurig Edwards, Aberhonddu

Tlws yr Ifanc (Cerddoriaeth) dan 21 oed: Meleri Pryse, Aberystwyth