Myfyrwyr Aberystwyth yn dathlu ennill Eisteddfod Ryng-gol 2015 (llun: UMCA)
Dros y penwythnos, fe dyrrodd dros 600 o fyfyrwyr Cymraeg o bob cwr o Gymru i Aberystwyth ar gyfer penwythnos yr Eisteddfod Ryng-golegol 2015.

Dyma oedd y canlyniadau terfynol swyddogol, wedi eu darparu gan Lywydd UMCA Miriam Williams.

Prifysgol Abertawe – 10

Prifysgol Aberystwyth – 1446

Prifysgol Bangor – 1312

Prifysgol Caerdydd – 209

Prifysgol y Drindod Dewi Sant – 6

Aberystwyth oedd yn fuddugol felly ar eu tomen eu hunain, gan gipio’r tlws oddi ar Fangor oedd wedi ennill llynedd yn Abertawe.

Gala Chwaraeon

Ar brynhawn dydd Gwener 6 Mawrth, cyn yr Eisteddfod dydd Sadwrn, fe gynhaliwyd y twrnament chwaraeon ar gaeau Blaendolau rhwng Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe.

Enillwyr y twrnament oedd Aberystwyth, a dyma’r canlyniadau unigol:

Pêl-droed bechgyn:

1af – Caerdydd

2il – Aberystwyth

3ydd – Bangor

Pêl-droed merched:

1af – Aberystwyth

2il – Bangor

3ydd – Caerdydd

Rygbi bechgyn:

1af – Aberystwyth

2il – Bangor

3ydd – Caerdydd ac Abertawe

Rygbi Merched:

1af – Aberystwyth

2il – Bangor

Yr Eisteddfod

Yn gynnar fore dydd Sadwrn, ar ôl noson fywiog yn y dref, dechreuodd yr Eisteddfod yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau am 10:30yb.

Yr arweinyddion oedd Anni Llŷn ac Aeron Pughe, a’r beirniaid oedd Elain Llwyd, Non Williams a Tudur Phillips. Dyma ganlyniadau’r cystadlaethau llwyfan:

Prifysgol Aberystwyth – 249

Prifysgol Bangor – 272

Prifysgol Caerdydd – 86

Wrth gwrs, cyn y penwythnos, roedd pawb wedi bod yn brysur yn ennill pwyntiau i’w prifysgolion yn y cystadlaethau gwaith cartref.

Diolch i’r holl feirniaid am eu gwaith; Eurig Salisbury, Bleddyn Owen Huws, Arwel Pod, Lleucu Roberts, Marged Haycock, Ian Hughes, Guto Dafydd, Felicity Roberts, Matthew Woodfall-Jones, Manon Dafydd, Gwenan Griffith a Bethan Antur.

Dyma ganlyniadau’r gwaith cartref:

Prifysgol Abertawe – 10

Prifysgol Aberystwyth – 1167

Prifysgol Bangor – 1035

Prifysgol Caerdydd – 113

Prifysgol y Drindod Dewi Sant – 6

Bydd modd gweld canlyniadau’r holl waith cartref yn Yr Awen a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan, ond dyma ganlyniadau’r prif gystadlaethau:

Y Gadair – Marged Tudur, Prifysgol Aberystwyth

Y Goron – Mared Roberts, Prifysgol Caerdydd

Y Fedal Ddrama – Alaw Gwyn, Prifysgol Aberystwyth

Y Fedal Gelf – Lleucu Lynch, Prifysgol Aberystwyth

Medal y Dysgwyr – Rhys Dilwyn Jenkins, Prifysgol Bangor

Tlws y Cerddor – Siwan Tudur, Prifysgol Bangor

Dymunai’r trefnwyr ddiolch o galon i holl noddwyr yr Eisteddfod: Prifysgol Aberystwyth, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ras yr Iaith, Yr Hen Lew Du Aberystwyth, Kanes Aberystwyth a Siop y Pethe.

Diolch o galon hefyd i bwyllgor trefnu’r Eisteddfod eleni am eu holl waith dros y misoedd diwethaf. Bydd yr Eisteddfod yn teithio i Gaerdydd ar gyfer 2016.