Jeremy Clarkson
Mae’r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson wedi cael ei wahardd o’i waith yn dilyn ffrwgwd gyda chynhyrchydd.

Roedd wedi cael rhybudd olaf y llynedd ar ôl honiadau ei fod wedi defnyddio geiriau hiliol wrth ffilmio rhaglen ar gyfer BBC2.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Yn dilyn ffrwgwd gyda chynhyrchydd BBC, mae Jeremy Clarkson wedi cael ei wahardd o’i waith ac fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.

“Ni fydd Top Gear yn cael ei ddarlledu ddydd Sul. Ni fydd y BBC yn gwneud sylw pellach ar y mater ar hyn o bryd.”

Mae Jeremy Clarkson wedi bod mewn trafferthion sawl gwaith gydag Ofcom am ei agwedd anweddus.