Gareth Bonello yn chwarae ar faes Eisteddfod yr Urdd
Un peth dydych chi’n sicr ddim yn brin ohono ar faes Eisteddfod yr Urdd yw cerddoriaeth – boed hynny ar y llwyfan, y stondinau, neu allan ar y llwyfan awyr agored.
Drwy gydol yr wythnos diwethaf fe fu golwg360 yn sgwrsio â rhai o’r artistiaid oedd ar y maes yng Nghaerffili, gan eu holi nhw ynglŷn â’u prosiectau diweddaraf.
Mae cyfle hefyd i chi glywed ambell gân gan y cerddorion, boed hi’n un o’u rhai gwreiddiol nhw neu’n fersiwn newydd o alaw adnabyddus.
Rydyn ni’n barod wedi cael sgwrs gyda Plu, Gildas, Calan, Y Ffug, a Roughion dros yr wythnos diwethaf, ac ar ddydd Sadwrn olaf yr ŵyl ieuenctid tro Gareth Bonello oedd hi i gael ei holi.
Mae’r canwr o Gaerdydd, sydd yn chwarae o dan yr enw The Gentle Good, eisoes wedi rhyddhau tair albwm – Y Bardd Anfarwol, While You Slept I Went Out Walking, a Tethered for the Storm.
Owain Schiavone fu’n sgwrsio â Gareth Bonello am ei gerddoriaeth a’r sin ar gyfer pobl ifanc, ac yn gwrando arno’n chwarae ei gân ‘Llosgi Pontydd’ ar y maes: