Y Konzerthaus yn Freiburg ble cynhaliwyd y gystadleuaeth
Elin Wyn Erfyl Jones fu yn Freiburg i weld Pencampwriaeth Bandiau Pres Ewrop …

Eleni cafodd Pencampwriaeth Bandiau Pres Ewrop (EBBC) ei gynnal yn Freiburg yn Ne Orllewin yr Almaen rhwng 30 Ebrill a 3 Mai, a dyma oedd fy nhro cyntaf yn ymweld â’r gystadleuaeth lle ges i’r pleser o wirfoddoli.

Cafodd y gystadleuaeth ei sefydlu yn 1978 gan Gymdeithas Bandiau Pres Ewrop (EBBA). Eleni roedd 18 o fandiau pres gorau Ewrop yn cystadlu yn Adran y Pencampwyr, o 14 o wledydd (i’r rheiny sydd ddim yn gyfarwydd gyda bandiau pres, mae Adran y Pencampwyr fel y Premier League ym myd pêl-droed).

Roedd y rhain wedi dod o’r Alban, Yr Almaen, Awstria, Gwlad Belg, Cymru, Denmarc, Yr Eidal, Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Gogledd Iwerddon, Lithwania, Lloegr, Norwy a’r Swistir.

I gystadlu mae’n rhaid i’r bandiau i gyd chwarae rhaglen o’u dewis eu hunain yn ogystal â darn prawf. Darn prawf 2015 oedd The God Particle gan Rolf Rudin oedd wedi’i selio ar ddarganfod gronyn yr Higgs boson yn Large Hadron Collider CERN yn 2012.

Cory yn cario’r faner

Yn cynrychioli Cymru roedd yr enwog Cory, band o Gwm Rhondda, a’u harweinydd Philip Harper.

Roedd y band yn fuddugol ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Oslo yn 2013 ac maen nhw ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn un o fandiau pres gorau’r byd.

Eleni fe wnaethon nhw orffen yn bumed gyda 188 o bwyntiau allan o 200, sy’n dangos safon y gystadleuaeth.


Cory o Gwm Rhondda yn cystadlu
Roedd Stephanie Wilkins, sy’n astudio chwarae’r corn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn cystadlu gyda Cory ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ewrop am y pedwerydd tro eleni.

Dywedodd wrtha’i ei bod hi wrth ei bodd yn cystadlu yno gan fod cymaint o bobl yn dod i wylio, ac mae ymateb y gynulleidfa ar ddiwedd y perfformiad bob amser yn un arbennig.

Uchafbwynt arall iddi hi yw’r parti sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ar ôl cyhoeddi canlyniadau’r Adran Her ac Adran y Pencampwyr, lle mae cyfle gwych i ddathlu gyda ffrindiau hen a newydd o bob cwr o Ewrop, a naws anhygoel.

Roedd y band yn hapus iawn i gael pumed eleni gan fod safon y gystadleuaeth mor uchel – y tri band ddaeth i’r brig eleni oedd:

1af – Black Dyke (Lloegr) 194 pwynt

2il – Band Pres Willebroek (Gwlad Belg) 192 pwynt

3ydd – Band Pres Bürgermusik Luzern (Swistir) 190 pwynt

Gallwch weld y canlyniadau i gyd ar wefan 4barsrest.

Perfformiad anhygoel


Black Dyke a'u harweinydd Dr Nicholas Childs
Fues i’n ddigon lwcus i gael stiwardio Black Dyke gefn llwyfan dydd Sadwrn cyn iddyn nhw chwarae eu darn hunan ddewisiad sef Metropolis 1927 for Brass Band & Percussion gan Peter Graham.

Roedd gan y band egni arbennig wrth iddyn nhw baratoi i fynd ymlaen ac roeddwn i’n gwybod y byddent yn rhoi perfformiad anhygoel.

Roedd eu dehongliad o’r darn yn wefreiddiol; roedd y gynulleidfa i gyd ar eu traed cyn i’r band hyd yn oed orffen chwarae, ac roedd eu harweinydd Dr Nicholas Childs mewn dagrau.

Yn ogystal ag Adran y Pencampwyr mae’r Adran Her a’r Adran Ieuenctid, a gafodd eu cyflwyno yn 2014 pan gafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Perth, Yr Alban.

Fe wnes i wirioneddol fwynhau gweld gymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan ac yn chwarae i safon mor ardderchog. Mae’n amlwg bod gan fandiau pres ddyfodol disglair ar draws Ewrop.

Hefyd fe gynhaliwyd chweched Gystadleuaeth Cyfansoddwyr Ewropeaidd lle cafodd tri darn eu dewis gan gyfansoddwyr ifanc, a gafodd eu perfformio gan Fand Pres Ieuenctid Nordrhein-Westfalen o ogledd yr Almaen.

Cyfle i’r ieuenctid


German Brass yn y cyngerdd gala
Un arall o’r digwyddiadau sy’n cael ei drefnu gan EBBA yw cwrs Band Pres Ieuenctid Ewrop, ac fe gafodd y band y cyfle i berfformio yng nghyngerdd gala’r gystadleuaeth ar y nos Sadwrn a hefyd mewn cyngerdd ar ôl cystadleuaeth y bandiau ieuenctid ar bnawn dydd Sul.

Arweinydd y band eleni oedd y trwmpedwr Uwe Köller sydd yn athro trymped ym Mhrifysgol Graz yn ogystal â bod yn rhan o’r ensemble pres adnabyddus German Brass wnaeth berfformio yng nghyngerdd gala’r gystadleuaeth.

Roedd Emily Humphries o Bont-y-pŵl yn cynrychioli Cymru ym Mand Pres Ieuenctid Ewrop ac fe ddywedodd hi wrtha’i fod cael bod o dan arweiniad Uwe Köeller yn brofiad anhygoel.

Ei huchafbwyntiau oedd cael chwarae yn seremoni agoriadol y gystadleuaeth a chael chwarae i gynulleidfa anferth a brwdfrydig y cyngerdd gala.


Y Konzerthaus yn orlawn
Dywedodd hi hefyd bod y profiad o gyfarfod pobl ifanc o ar draws Ewrop wedi bod yn un gwych a bod y cwrs yn arwain i fyny at y gystadleuaeth wedi bod yn lot o hwyl.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Lille, Ffrainc y flwyddyn nesa, yn Oostende yng Ngwlad Belg yn 2017 ac yna Utrecht yn yr Iseldiroedd yn 2018.

Mae Cymru hefyd yn gobeithio cynnal y gystadleuaeth yng Nghaerdydd yn 2019 neu 2020 ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn!

I ddarllen mwy am y gystadleuaeth fe allwch chi fynd i wefan EBBA neu wefan cystadleuaeth EBBC 2015 eleni.