Fe fydd rhai o weithwyr ITV, gan gynnwys rhai yng Nghymru, yn streicio am 24 awr heddiw mewn protest sy’n galw am fwy o godiad cyflog.
Mae’r undebau wedi bod yn pwyso am ragor o gynnydd mewn cyflogau o ystyried elw’r cwmni teledu.
Daw wrth i ffigyrau gwylio diweddaraf y sianel ddangos bod gostyngiad o 3% wedi bod yn nifer y gwylwyr dros y misoedd diwetha’, ond bod cyllid sy’n cael ei greu o hysbysebion yn gryf iawn.
Y llynedd, gwelodd ITV gynnydd mewn elw cyn treth o 23% – i £712 miliwn – wedi i gyllid hysbysebion godi 6% i £1.63 biliwn.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Bectu, Gerry Morrissey, fod y staff yn “anhapus iawn” gyda’r cynnig cyflog o’i gymharu â’r pecyn bonws mae swyddogion gweithredol yn eu cael.
Bydd y streic, a fydd yn cyd-fynd â chyfarfod blynyddol ITV, yn effeithio rhaglenni byw.