Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn ymddangos ym Maes B ac ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Yn ôl Guto Brychan, trefnydd Maes B ac un o gydlynwyr cerddoriaeth ar y Maes, fe fydd mwy o gerddoriaeth nag erioed o’r blaen i’w glywed ar y Maes.

Ymysg y perfformwyr fydd i’w gweld yn y Tŷ Gwerin, ar lwyfan y Maes a Chaffi Maes B mae Cymdeithas Genedlaethol Ddawns Werin Cymru, Côr Meibion Penybontfawr, sioe Stwnsh, Sipsi Gallois, Gwyneth Glyn, Brwydr y Bandiau, Kizzy Crawford, Elin Fflur a’r Band, Y Ffug, Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana, Band Pres Llareggub, Sŵnami, Geraint Jarman, Yws Gwynedd, a’r Ods.

Bydd Bryn Fôn, Candelas a Sŵnami hefyd i’w clywed o nos Fercher 5 Awst i nos Sadwrn 8 Awst.

“Rydym yn falch o gyhoeddi ein lein-yp ar gyfer eleni, ac rwy’n gobeithio y bydd yn rhestr sydd yn apelio at bawb sy’n dilyn y sin roc yma yng Nghymru,” meddai Guto Brychan.

“Rydym wedi datblygu Maes B dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf ac yn bendant dyma brif ŵyl cerddoriaeth pop a roc Cymraeg yma yng Nghymru, ac mae’r ffaith bod gennym gynifer o fandiau eto eleni yn atgyfnerthu hynny.

“Mae delwedd yr ŵyl hefyd wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf a bydd rhagor yn cael ei wneud er mwyn datblygu hyn ymhellach eleni.”

Maes B

Nos Fercher – Bryn Fôn, Y Bandana, Bromas, Y Cledrau, Trwbz, DJs Mari ac Elan

Nos Iau – Sŵnami, Y Reu, Gwenno, Casi, Band Pres Llareggub, DJs Nyth

Nos Wener – Yws Gwynedd, Yr Eira, Ysgol Sul, Breichiau Hir, Castro, DJ Huw Stephens

Nos Sadwrn – Candelas, Y Ffug, Cowbois Rhos Botwnnog, Mellt, Enillydd Brwydr y Bandiau, DJs Mari ac Elan

Llwyfan y Maes

Dydd Llun – DJs Bar Syched, Band Jazz Rhys Taylor, Gwyneth Glyn, Gai Toms, Sipsi Gallois

Dydd Mawrth – DJs Bar Syched, Brwydr y Bandiau, Ysgol Sul, Trŵbz

Dydd Mercher – Elin Fflur a’r Band, Geraint Lovgreen, Brython Shag, Kizzy Crawford, Steve Eaves a’r Band

Dydd Iau – Al Lewis Band, Y Bandana, Bromas, Cowbois Rhos Botwnnog, Candelas, Y Ffug

Dydd Gwener – Geraint Jarman, Sŵnami, Gwenno, Band Pres Llareggub, Mr Phormula, Plu

Dydd Sadwrn – Yr Ods, Yws Gwynedd, Yr Eira, Palenco, Osian Howells, Tecwyn Ifan a’r Band

Cynhelir yr Eisteddfod ym Meifod o 1-8 Awst.