John Glyn Jones
Mae teyrngedau’n cael eu rhoi i’r bardd a’r cenedlaetholwr John Glyn Jones o Ddinbych fu farw ddoe yn 68 oed.

Roedd yn aelod o dîm Talwrn Dinbych ers 1979 ac yn cynnal dosbarthiadau cynganeddu yn yr ardal ers dros ugain mlynedd.

Yn ogystal â bod yn aelod o sawl pwyllgor lleol, ef hefyd oedd Prif Weithredwr cyntaf Tai Clwyd (1982-2007) a chadeirydd cyntaf Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Dysgodd John Glyn gynganeddu yn nosbarth nos y Prifardd Gwilym R Jones yn y 1970au.

Yn ôl gwefan lenyddol Barddas, roedd yn ei ystyried ei hun yn fwy o gynganeddwr nag o fardd, gan gredu’n gryf bod lle i gerddi syml a dealladwy ar y darlleniad cyntaf mewn llenyddiaeth.

‘Cymeriad ffraeth’

Dywedodd y bardd Dafydd Pritchard, Cadeirydd Barddas, amdano: “Mi rydw i fel unigolyn, a Barddas fel Cymdeithas, wedi colli cyfaill hynod o driw.

“Roedd o’n rhywun oeddwn i’n medru troi ato yn gyson. Roedd ganddo’r amynedd i dreulio amser yn helpu a rhoi cyngor bob amser.

“Roedd o hefyd yn gymeriad ffraeth iawn ac yn berson hawdd iawn i ymwneud ag o, ac roedd ei ymroddiad o tuag at Barddas yn llwyr. Fe weithiodd o’n ofnadwy o galed ar hyd y blynyddoedd.

“Roedd barddoniaeth a’r gynghanedd yn agos iawn ato wrth gwrs, ac mi oedd o’n un o’r rhai prin oedd yn medru sgwennu englynion ysgafn, gwirioneddol ddoniol. Er bod ochr ddifrifol iddo hefyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Cartrefi Cymunedol Gwynedd: “Newyddion trist iawn am farwolaeth John Glyn Jones, cadeirydd cyntaf CCG. Cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a diolch am flynyddoedd o wasanaeth.”

‘Cyfraniad amhrisiadwy’

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin (cafodd Cymdeithas Tai Clwyd a Chymdeithas Tai Eryri eu huno yn 2014 i greu Grŵp Cynefin): “John Glyn Jones oedd Prif Weithredwr cyntaf Tai Clwyd a bu yn y swydd am 25 mlynedd tan iddo ymddeol yn 2007. Roedd yn un o arweinwyr pwysicaf y mudiad cymdeithasau tai yng Nghymru ers dyddiau cynnar yr 1980au.

“Gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i ddatblygiad Tai Clwyd gan bwysleisio anghenion cymunedau gwledig Cymreig, ac roedd yn uchel iawn ei barch ymhlith ei gydweithwyr a phartneriaid ledled Cymru.

“Bydd colled fawr o’i ôl ymysg ei ffrindiau a’i gyn-gydweithwyr a hoffem estyn ein cydymdeimlad cywiraf â’i deulu.”

Mae’n gadael tri o blant a wyrion.