Cadeirydd S4C, Huw Jones
Mae Cadeirydd S4C Huw Jones wedi croesawu penodiad John Whittingdale i rôl Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Dywedodd Huw Jones mewn datganiad ei fod yn “croesawu’r cyfle i weithio gyda John Whittingdale yn fawr”.

Ychwanegodd fod S4C yn gyfarwydd â gwaith yr Ysgrifennydd Gwladol newydd o’i gyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae John Whittingdale wedi bod yn feirniadol iawn o drwydded deledu’r BBC ac mae disgwyl iddo wneud cyhoeddiad am hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.

Meddai Huw Jones: “”Dangosodd adroddiad diweddar y Pwyllgor, ychydig cyn yr etholiad, ddealltwriaeth o rai o’r materion pwysicaf i ddyfodol S4C, yr angen am arian digonol, a pharhad ein hannibyniaeth fel rhan o sector cyfryngau Cymreig ffyniannus ac amlochrog.

“Mae ei wybodaeth am y sector cyfryngau yn golygu ei fod mewn sefyllfa gref o’r cychwyn.”