Paul Hogg gyda'r gadair
Bydd prif wobrau Eisteddfod yr Urdd Caerffili, y gadair a’r goron, yn cael eu cyflwyno i drefnwyr yr ŵyl mewn digwyddiad arbennig yn Llancaiach Fawr, Nelson, heno – dim ond pythefnos cyn i’r Eisteddfod gael ei chynnal ar y safle.

Y saer coed a’r dylunydd Paul Hogg sydd wedi creu’r gadair.  Mae Paul Hogg yn rhedeg cwmni Craft Wales yn Ystrad Mynach sy’n arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu a gosod cynnyrch pren.

Mae’r gadair, sy’n cael ei rhoi i’r gerdd gaeth neu rydd orau, yn un o ddyluniad modern eleni. Mae wedi’i gwneud o diwbiau dur di-staen, gwydr gwydn, pren haenog bedw a goleuadau LED.

Martyn Rees, athro dylunio a thechnoleg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, sydd wedi dylunio’r goron, sy’n cael ei rhoi am ysgrifennu’r darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau.

Bandyn pres yw’r goron, sydd wedi’i ysgythru gyda gwahanol ddelweddau yn cynrychioli bwrdeistref Caerffili – o goedwig Cwmcarn i het fez y comedïwr Tommy Cooper, maneg baffio Joe Calzaghe a gerddi Llancaiach Fawr.

‘Braint’

Meddai Paul Hogg, sy’n wreiddiol o ardal Rhondda Cynon Taf, ac sydd bellach yn byw yn Abertridwr, ger Caerffili: “’Wy wedi bod yn gwneud gwaith pren ers 20 mlynedd, ond dyma’r tro cyntaf i mi wneud cadair Eisteddfodol ac mae wedi bod yn fraint.

“O fewn 24 awr i dderbyn y comisiwn, ro’n i wedi creu’r darluniau cychwynnol ac o fewn saith niwrnod ro’n i wedi creu model – dyma oedd y man cychwyn.  Ro’n i’n awyddus i ddefnyddio deunyddiau modern – ro’n i eisiau gwneud argraff a chynhyrchu rhywbeth newydd, gwreiddiol.

“’Wy’n hapus iawn gyda’r canlyniad ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld y gadair ar lwyfan yr Eisteddfod.”


Martyn Rees gyda'r goron
‘Cyfle  unwaith-mewn-bywyd’

Daw Martyn Rees yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth ac mae wedi dysgu yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ers 1992.

Meddai Martyn Rees:  “Roedd yn anrhydedd go iawn i gael fy ngwahodd i greu’r goron – cyfle cyffrous unwaith-mewn-bywyd nad oeddwn am ei droi lawr.

“Fe ddechreuais i weithio ar y cynllun fis Mehefin y llynedd, gan dreialu gwahanol syniadau ac adeiladu sawl prototeip.  ’Wy wedi bod yn gweithio yn fy amser sbâr a rhwng gwersi – mae wedi bod yn sialens a dwi wedi gwthio fy hun y tu hwnt i’m ‘comfort zone’.

“’Wy wedi mwynhau’r profiad ac fe fydda i’n teimlo tipyn o falchder wrth wylio seremoni’r coroni yn ystod yr Eisteddfod.”