Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol
Cynhelir gŵyl cyhoeddi’r Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau  yn yng Nghastell Cil-y-Coed ddydd Sadwrn Mehefin 27, ble bydd cyfle i drigolion lleol ddathlu dyfodiad y brifwyl, sy’n dod i’r ardal am y tro cyntaf ers dros ganrif.

Bwriad Gŵyl y Cyhoeddi yw datgan bod yr Eisteddfod ar y ffordd i’r ardal, ac mae’r trigolion ynghyd â’r cyngor lleol yn edrych ymlaen at groesawu’r brifwyl,  fel yr eglurodd Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod i ardal hardd Sir Fynwy.

“Gyda digonedd o ddiwylliant a cherddoriaeth mae’n mynd i fod yn ŵyl i’w chofio.  Bydd seremoni’r Cyhoeddi yng Nghil-y-Coed yn ddiwrnod arbennig i’r teulu ac yn gyfle i ddathlu popeth sy’n arbennig am Gymru.”

Ychwanegodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Mae’r Cyhoeddi yn ddigwyddiad arbennig, gan mai dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad mawr yn yr ardal ar ran yr Eisteddfod.  Mae’n gyfle pwysig i’r ardal groesawu’r Eisteddfod ac i ninnau groesawu trigolion yr ardal i’r Eisteddfod.”

‘Ymroddiad y gymuned leol’

Mae Elfed Roberts hefyd wedi diolch i’r gymuned leol yn Sir Fynwy am eu gwaith caled: “Mae ymroddiad y gymuned leol a’r gwaith a wneir ar lawr gwlad yn rhan hollbwysig o waith yr Eisteddfod, ac rydym wedi cael modd i fyw yn gweithio yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau hyd yn hyn ac yn ddiolchgar iawn i bobl leol a’r Cyngor am eu croeso a’r holl gefnogaeth.”

Cynhelir y Cyhoeddi yng Nghastell Cil-y-Coed, ddydd Sadwrn 27 Mehefin.  Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar gyrion tref Y Fenni o Orffennaf  29- 6 Awst 2016.