Errol Brown a'i deulu
Bu farw prif leisydd y band Hot Chocolate Errol Brown yn 71 oed yn ei gartref yn y Bahamas.

Dywedodd ei reolwr ei fod yn dioddef o ganser ar yr iau a’i fod wedi marw ger bron ei wraig a’i ddwy ferch.

Roedd yn enwog am sgwennu a pherfformio caneuon fel ‘You Sexy Thing’, ‘It Started With A Kiss’ a ‘So You Win Again’, a oedd wedi gwneud eu marc yn siartiau dros 50 o wledydd ledled y byd.

“Roedd ‘na wastad gerddoriaeth o gwmpas lle bynnag oedd o. Roedd o’n caru bywyd ac fe fydd bwlch mawr ar ei ôl ym mywyd pawb oedd yn ei adnabod,” meddai’r rheolwr Phil Dale.

Brodor o Jamaica oedd Errol Brown ond fe symudodd i Lundain yn 12 oed.

Yn 2004, cafodd wobr Ivor Novello am ei gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth.