Mae undeb Bectu wedi cyhoeddi y bydd staff ITV, gan gynnwys staff cynhyrchu, yn cynnal streic 24 awr yn dilyn anghydfod dros gyflogau.

Dywedodd undeb y technegwyr, Bectu, bod 67% o’i haelodau wedi pleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol mewn protest am godiad cyflog o 2%.

Mae’r undebau wedi bod yn pwyso am ragor o gynnydd mewn cyflogau o ystyried elw’r cwmni teledu.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Bectu, Gerry Morrissey, fod y staff yn “anhapus iawn” gyda’r cynnig cyflog.

Meddai: “Mae gwahaniaeth enfawr rhwng y cyflog a gynigir i staff a’r pecyn bonws mae swyddogion gweithredol yn eu cael, yn ogystal â difidend cyfranddalwyr.”

Dywedodd Bectu y bydd y streic, a fydd yn cyd-fynd â chyfarfod blynyddol ITV, yn effeithio rhaglenni byw.

Mae newyddiadurwyr a staff eraill hefyd yn cymryd rhan yn y streic.

Dywedodd llefarydd ar ran ITV eu bod nhw’n fodlon parhau i gynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr undeb ond eu bod yn teimlo bod y cynnig o godiad cyflog o 2% yn un teg.

Ychwanegodd bod ganddyn nhw gynlluniau mewn lle i sicrhau bod eu rhaglenni yn cael eu darlledu a’u bod yn hyderus na fyddai’r streic yn effeithio ar raglenni ar 14 Mai.