Gwilym, Elan a Marged o Plu
Llio Angharad fu’n holi’r triawd gwerin am eu dylanwadau, a’r gig orau maen nhw wedi ei chwarae …
Gyda’i gilydd mae Elan, Marged a Gwilym Rhys – brawd a dwy chwaer – yn cael eu hadnabod fel Plu, band gwerin amgen o Ogledd Cymru.
Gyda’u sŵn syfrdanol, mae gan y band lu o gigs i edrych ymlaen atynt dros fisoedd yr haf gan gynnwys Tafwyl ym mis Mehefin a’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Cafodd eu halbwm gyntaf Plu ei rhyddhau nôl yn 2013, yn cynnwys caneuon megis ‘Sgwennaf Lythyr’ a’n ffefryn i, ‘Tra Bo Dau’.
Fe ryddhaodd y grŵp albwm o alawon i blant, Holl Anifeiliaid y Goedwig, cyn y Nadolig y llynedd hefyd.
Mae’r grŵp hefyd wedi dweud ar eu gwefan y byddan nhw’n rhyddhau albwm newydd eleni, a dw i’n edrych ymlaen yn arw at ei glywed!
Yn ddiweddar fe ges i gyfle i holi ychydig o gwestiynau cyflym iddyn nhw:
Sut wnaethoch chi ddod o hyd i enw’r band?
Elan wnaeth ddod fyny efo’r enw. Ond ar ôl tipyn o drafod, a methu meddwl am enw arall, Plu wnaeth sticio.
Pe baech chi’n cael y cyfle i berfformio ar unrhyw lwyfan yn y byd, lle fuasech chi’n hoffi perfformio?
Buasem ni’n hoff iawn o chwarae mewn gwyliau ychydig mwy fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd neu End Of The Road.
Be ydi’r cyngor gora’ rydach chi erioed wedi ei gael?
Nain ydy ein critig mwyaf ac mae unrhyw gyngor ganddi hi yn ddefnyddiol!
Beth ydi’r gig orau rydach chi erioed wedi chwarae?
Yn ddiweddar cawsom y cyfle i chwarae i gynulleidfa newydd yn Union Chapel, Islington, yn Llundain. Roedd yn lleoliad hyfryd a’r gynulleidfa mor dawel a chroesawgar. Yn sicr ein gig gorau hyd yn hyn.
Pwy ydy’ch ysbrydoliaeth?
Mae gennym ni flasau cerddorol hollol wahanol ac felly yn cael ein hysbrydoli gan fandiau ac artistiaid gwahanol.
Ar y funud Cahalen and Eli a Chris Thile ydy rhai Gwilym, The Staves a First Aid Kit ydy rhai Marged ac Y Diliau a Jane Weaver ydy rhai Elan.